Coleg yn cynnal ‘Sesiwn Baentio’ i helpu myfyrwyr i leddfu straen

Seated students involved in painting their paint along two birds in a tree, with paint palettes and paintbrushes.

Yn ddiweddar, croesawodd Grŵp Colegau NPTC Claire Timbrell neu ‘The Paint Along Lady’ i helpu i leddfu straen myfyrwyr.

Mae Claire yn teithio ar draws De Cymru yn cyflwyno sesiynau paentio lle mae pawb yn gadael gyda phaentiad gorffenedig. Gall ei digwyddiadau amrywio o 30 i 400 o bobl ar y tro, ac roedd hwn yn weithgaredd perffaith i fyfyrwyr ymlacio cyn eu harholiadau TGAU neu Lefel 3 sydd ar ddod.

Wrth ddod i mewn i’r stiwdio, cafodd myfyrwyr eu cyfarch â cherddoriaeth hwyliog a gwenau cynnes gan Claire a’i thîm. Yn ddigon buan, roedd chwyrliadau o liw yn gorchuddio eu cynfasau wrth i’w creadigrwydd ddechrau llifo.

Yn dilyn cyngor arbenigol Claire, canolbwyntiodd myfyrwyr ar draws y Coleg yn gyfan gwbl ar gelfyddyd hwyliog, nid celfyddyd gain. Nid oedd angen unrhyw brofiad paentio, a dim ond pum lliw a thri brwsh a ddefnyddiodd y myfyrwyr i greu campweithiau unigol gwych o adar cariad ar gefndir llawn lliw.

Roedd Petra Williams, Uwch Swyddog:  Profiad Myfyrwyr Addysg Uwch y Coleg yn falch iawn o allu cyflwyno’r gweithgaredd hwn trwy Gyllid Ymestyn yn Ehangach, a dywedodd:

“Roedd yn gyfle mewn gwirionedd i fyfyrwyr gael hwyl a dadflino ychydig cyn iddynt ddechrau ar dymor yr arholiadau.  Mae iechyd a llesiant myfyrwyr wrth galon y Coleg, a gwyddom y bydd ymlacio’ch meddwl cyn arholiad neu sesiwn adolygu yn eich helpu i gynllunio eich amserlen astudio, cofio eich nodiadau, a theimlo’n well yn gyffredinol am bopeth.”

Nod Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach De-orllewin Cymru yw cynyddu cyfranogiad mewn addysg uwch gan bobl o grwpiau a chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol yn Ne-orllewin Cymru. Trwy gydweithio ag Ymestyn yn Ehangach gall y Coleg gynnig amrywiaeth o weithgareddau ysbrydoledig ar gyfer pobl ifanc wedi’u targedu, sy’n creu’r llwybrau hynny i addysg uwch.

Cafodd myfyrwyr o Academi Chweched Dosbarth y Coleg amser gwych, gan ychwanegu:

”Ni all yr un ohonom gredu pa mor dda yw ein holl baentiadau! Roedd yn llawer o hwyl ac yn seibiant angenrheidiol o waith Coleg, mae wedi rhoi amser i ni ailfywiogi cyn mynd yn ôl at y gwaith!”

Dywedodd Claire: ”Rwy’n wir yn credu bod y broses o greu paentiad yn un o’r hobïau  mwyaf hamddenol a gwerth chweil a chredaf y dylai fod yn hygyrch i bawb, o bob oed a gallu.”

Dim ond un gweithgaredd oedd hwn mewn rhaglen lawn o sesiynau a gynlluniwyd gan y Coleg i helpu myfyrwyr i drechu straen, adolygu a pharatoi ar gyfer arholiadau.