Gwobrau ar gyfer Anrhydeddau mewn Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngrŵp Colegau NPTC

Cynhaliwyd Gwobrau Chwaraeon Grŵp Colegau NPTC 2024 ddydd Mercher, 15 Mai, gydag enillwyr o bob math o Chwaraeon yn dathlu yn ystod y noson.

Daeth myfyrwyr yn eu llu i’r digwyddiad a gynhaliwyd eleni yng Nghlwb Rybgi Pêl-droed Castell-nedd a chyflwynwyd gwobrau iddynt a oedd yn cynnwys cydnabyddiaeth ar gyfer anrhydeddau rhyngwladol a sirol, cynrychioli’r Coleg, acoladau ar gyfer y chwaraewyr sydd wedi gwella mwyaf ; sbortsmon/sbortswraig y flwyddyn a thystysgrifau cyflawni ar gyfer rhai o’r myfyrwyr chwaraeon elitaidd hefyd.

Jac Morgan, seren timau rygbi’r Gweilch a Chymru oedd y gwestai arbennig a oedd yn cyflwyno’r gwobrau i’r holl enillwyr ac yn mynegi llongyfarchiadau a negeseuon o gefnogaeth iddynt.

Dywedodd Barry Roberts, Pennaeth yr Ysgol: Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus: “Fel Pennaeth yr Ysgol, roeddwn i wrth fy modd i weld mwy na chant o fyfyrwyr o feysydd amrywiol ar draws y coleg yn dod i’r Seremoni Wobrwyo flynyddol.

Roedd y noson yn gyfle i ddathlu cyflawniadau ein hunigolion rhagorol ac aelodau’r tîm ac roedd yn amlwg bod chwaraeon yn ffynnu yng Ngrŵp Colegau NPTC.  Hoffwn i hefyd ddweud diolch i’n gwestai arbennig Jac Morgan am roi o’i amser i gefnogi’r noson.  Rydyn ni wir yn fwy nag addysg yn unig!

Roedd 12 myfyriwr arall, rhai’n fyfyrwyr presennol a rhai’n gyn-fyfyrwyr yn cael eu dathlu hefyd yn ystod y noson wrth i’w tystysgrifau Gwobr Aur Dug Caeredin yn cael eu cyflwyno iddynt, yn fuan ar ôl iddynt ddychwelyd yn ddiweddar o ddigwyddiad brenhinol yng Ngerddi Palas Buckingham a gynhaliwyd i ddathlu eu cyflawniadau.

Cafodd gwobrau eu cyflwyno i’r myfyrwyr canlynol:

Chwaraewr Pêl-droed y Flwyddyn 23-24 – Dylan Packer

Chwaraewr Pêl-droed sydd wedi gwella mwyaf 23-24 – Ben Williams

 

Chwaraewr Pêl-droed y Flwyddyn 23-24 – Tom Passmore

Chwaraewr Pêl-droed sydd wedi gwella mwyaf 23-24 – Callum Sullivan

 

Chwaraewr Pêl-rwyd y Flwyddyn23-24 – Bronwen Donovan

Chwaraewr Pêl-rwyd y Flwyddyn 23-24 – Ffion Brown

Chwaraewr Pêl-rwyd sydd wedi gwella mwyaf 23-24 – Layla Hamilton

Chwaraewr Pêl-rwyd sydd wedi gwella mwyaf 23-24 – Sophie Davies

 

Chwaraewr Pêl-droed y Flwyddyn 23-24 – Gwen Strang

Chwaraewr Pêl-droed sydd wedi gwella mwyaf 23-24 – Chloe Gamble

 

Chwaraewr Rygbi’r Flwyddyn 23-24 – Carson Lewis

Chwaraewr Rygbi sydd wedi gwella mwyaf 23-24 – Brandon Jones

 

Chwaraewr Rygbi’r Flwyddyn 23-24 – Kelsey Monteiro

Chwaraewr Rygbi sydd wedi gwella mwyaf 23-24 – Hollie Tang

 

Chwaraewr Pêl-fasged sydd wedi gwella mwyaf 23-24 – Cameron Oakley

Chwaraewr Criced y Flwyddyn- Luke Thomas

Gwobr Dug Caeredin y Flwyddyn- Meg Amber

 

Sbortswraig y Flwyddyn 23-24 – Elena Cole

Sbortsmon y Flwyddyn 23-24 – Charlie Thomas

Gwobr Kieran Sparrow 23-24 – Hollie Fletcher

 

Athletwr y Flwyddyn 22-23 – Sam Davies (cyflwyniad o’r seremoni wobrwyo’r llynedd yw’r cyflwyniad hwn)

Cliciwch yma i weld ein horiel lawn ar Facebook