Adnabuwyd ymdrechion ei fyfyrwyr ag ymunodd â’r Coleg ar ddechrau’r flwyddyn academaidd (2023) gan Grŵp Colegau NPTC trwy roi nifer o fwrsariaethau hael mewn seremoni a gynhaliwyd yng Ngholeg Castell-nedd.
Am fwy na degawd, mae’r Coleg wedi rhoi bwrsariaethau gwerth £1,000 i’r gafarn newydd o fyfyrwyr o ysgolion gyfun partner a gyflawnodd y canlyniadau gorau yn eu harholiadau TGAU.
Cyflwynwyd tystysgrif a bwrsariaeth i fyfyrwyr a berfformiodd i’r eithaf i’w hannog i ddatblygu eu sgiliau a chefnogi eu teithiau i brifysgolion o fri.
Rhoddwyd bwrsariaethau hefyd ar draws y Coleg i fyfyrwyr am eu rhagoriaeth alwedigaethol ynghyd ag ysgoloriaethau i helpu myfyrwyr â gallu rhagorol ym maes chwaraeon i ddatblygu eu doniau i’r eithaf, ar yr un pryd â chynnal eu hastudiaethau academaidd.
Roedd Tessa Jennings Is-bennaeth Gwasanaethau Academaidd Grŵp Colegau NPTC wrth law i wobrwyo’r myfyrwyr â’i bwrsariaethau a dywedodd fod yr arian wedi helpu myfyrwyr blaenorol a oedd wedi camu ymlaen i astudio ar lefel gradd a thu hwnt.
Dywedodd: “Y myfyrwyr sy’n derbyn bwrsariaethau heddiw yw’r gorau o’r gorau. Rydyn ni wrth ein bodd i’w gwobrwyo am eu campau eithriadol. Mae rhai o’n henillwyr blaenorol wedi mynd ymlaen i astudio mewn rhai o’r prifysgolion gorau yn y wlad.’’
Ceir rhestr o enillwyr bwrsariaethau isod:
Lillie Davies | Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin |
Isobel Glass | Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin |
Caitlin Charles | Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin |
Oliver Jones | Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin |
Lewis Tristham | Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin |
Niamh Davies | Ysgol Cwm Brombil |
Nia Thomas | Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur |
Mia Davies | Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur |
Steffan Arcari-Jones | Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed |
Theo Bowden | Ysgol Gyfun Gellifedw |
Ethan Morrison | Ysgol Gyfun Gellifedw |
Isobel Humphreys | Ysgol Bae Baglan |
Eleanor Rabaiotti | Ysgol Bae Baglan |
Caian Lewis | Ysgol Gyfun Cefn Saeson |
Patrick McGinley | Ysgol Gymunedol Cwmtawe |
Robert Richards | Ysgol Gymunedol Cwmtawe |
Emily Saunders | Ysgol Gymunedol Cwmtawe |
Elis Bateman | Ysgol Gymunedol Llangatwg |
Cameron Thomas | Ysgol Gyfyn Gŵyr |