Mae dau fyfyriwr Arlwyo a Lletygarwch o Goleg Y Drenewydd wedi bod yn cystadlu yn rownd derfynol cystadleuaeth The Chefs Forum sef ‘Pasteiwr y Flwyddyn 2024 i Fyfyrwyr’.
Roedd y gystadleuaeth a gynhaliwyd yn West London College, yn arddangos dawn ffantastig myfyrwyr a phrentisiaid o golegau, darparwyr dysgu a phrifysgolion y DU. Gyda beiriniad, noddwyr a gwobrau o fri roedd yn gystadleuaeth gyffrous i fod yn rhan ohoni.
Gwnaethpwyd ymdrechion ffantastig gan fyfyrwyr Y Drenewydd Jazmin Williams a Serah Morgan-Page i gynllunio ac ymbaratoi a llwyddodd y ddwy i fod ymhlith yr wyth cystadleuydd terfynol allan o 100 o gyfranogwyr.
Roedd y gystadleuaeth yn anodd ac roedd y 14 o feirniaid yn cynnwys uwch gogyddion gweithredol o rai o’r sefydliadau mwyaf adnabyddus yn y DU. Dangoswyd sgiliau gwych gan y ddwy ferch ar y diwrnod, gyda Jazmin yn dod yn y drydydd lle.
Dywedodd y prif feirniad Franciane Tartari – beirniad rhyngwladol yn y maes a phasteiwr gweithredol yn 1 Hotel Mayfair: “O 100 o gystadleuwyr bron, daethpwyd o hyd yn araf i’r 8 cystadleuydd terfynol a oedd i gyd yn addawol iawn yn y rownd derfynol. Roedden ni wedi gofyn llawer ganddyn nhw ond roedd pob un ohonyn nhw wedi ymateb i’r achlysur.”
Thema’r digwyddiad eleni oedd pwdin parod ac roedd gofyn i’r myfyrwyr gyflwyno 12 o faint mono yn union yr un fath ynghyd â 2 entremets.
Dywedodd Jazmin: Mwynheais y profiad cyfan, ac mae wedi fy ysgogi i ddilyn gyrfa yn hyn o beth. Diolch i bawb yng Ngholeg Y Drenewydd am eu holl gefnogaeth ac i’m darlithwyr am ein hannog ni i gymryd rhan.”
Roedd y darlithydd arlwyo Jordan Dunt yn gwylio’n nerfus wrth i’r gystadleuaeth fynd yn ei blaen. Dywedodd Jordan wedyn: “Roedd y ddwy ferch wedi cynllunio’n dda iawn, rydyn ni mor falch o’r ddwy ohonyn nhw. Mae’n anhygoel gweld pa mor dda y maen nhw wedi gwneud mewn amgylchedd cystadleuol gyda llygaid rhai o’r cogyddion mwyaf talentog yn y DU arnyn nhw.”