Ar ôl ei hymweliad â Choleg Castell-nedd, aeth Claire Timbrell sef ‘The Paint Along Lady’ i Goleg Afan yr wythnos hon i helpu i leihau straen myfyrwyr.
Mae Claire yn teithio ar draws De Cymru yn cyflwyno sesiynau peintio lle y mae pawb yn gadael gyda pheintiad wedi’i gwblhau, gall ei digwyddiadau amrwyio o 30 i 400 o bobl a dyma weithgaredd perffaith i wneud i fyfyrwyr ymlacio cyn eu harholiadau a’u haseiniadau sy’n dod yn fuan.
Wrth fynd i mewn i’r stiwdio, roedd cerddoriaeth fywiog ac roedd Claire a’i thîm yn croesawu’r myfyrwyr â gwenau cynnes. Cyn bo hir, roedd chwyrliadau o liw ar draws y canfasau wrth i’w creadigrwydd fynd yn ei flaen.
Yn unol â chyngor arbenigol Claire, roedd myfyrwyr yn canolbwyntio ar greu celf hwyl yn lle celf gain. Nid oedd angen profiad blaenorol o beintio, a defnyddiodd y myfyrwyr pum lliw yn unig a dim ond tri brwsh i greu celfweithiau unigol ffantastig o dirlun cwm Cymreig, gyda defaid yn pori arnynt.
Daeth myfyrwyr Coleg Afan sy’n astudio ystod o bynciau, yn eu llu i gymryd rhan yn y gweithgaredd. Ymunodd Ellie Rees Myfyriwr Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant gan ei ffrindiau Taylor Bird a Sophie John a chafodd eu synnu gan ganlyniadau eu celfweithiau.
“Mae gwahanol lefel o brofiad celf gan bob un ohonon ni, yn amrywio o TGAU mewn Celf i ddim profiad o gwbl, ond doedd dim modd gweld hyn am ei bod mor hawdd dilyn popeth. Roedd yn wych cael seibiant o waith Coleg a gwneud gweithgaredd hwyl gyda’n gilydd. Roedd mor ymlaciol ac fe fydden ni’n ei argymhell i fyfyrwyr eraill sy’n profi straen cyn yr arholiadau”.
Roedd Petra Williams, Uwch Swyddog y Coleg:Profiad Myfyrwyr Addysg Uwch wrth ei bodd i ddarparu’r gweithgaredd hwn unwaith eto diolch i Gyllid Ymestyn yn Ehangach a dywedodd:
“Yn y bon roedd yn gyfle i fyfyrwyr Coleg Afan gael hwyl ac ymlacio tipyn bach cyn dechrau tymor yr arholiadau. Mae iechyd a llesiant myfyrwyr wrth wraidd y Coleg ac rydyn ni’n gwybod bod ymlacio eich meddwl cyn arholiad neu sesiwn adolygu yn eich helpu i gynllunio’ch amserlen astudio, cofio’ch nodiadau a theimlo’n well ynglŷn â phopeth yn gyffredinol.”
Mae Partneriath Ymestyn yn Ehangach De-orllewin Cymru yn anelu at gynyddu’r nifer o bobl o gymunedau a grwpiau heb ddigon o gynrychiolaeth sy’n cymryd rhan mewn addysg uwch yn Nhe-orllewin Cymru, Trwy gydweithredu ag Ymestyn yn Ehangach, gall y Coleg gynnig ystod o weithgareddau ysbrydoledig i bobl ifanc penodol, wrth greu’r llwybrau hynny i addysg uwch.
Dyma weithgaredd arall mewn rhaglen gyflawn o sesiynau a ddyluniwyd gan y Coleg i helpu myfyrwyr i ymdopi â straen, adolygu ac ymbaratoi ar gyfer tymor arholiadau.