Mae Menna Jones, myfyrwraig Amaethyddiaeth Coleg y Drenewydd, wedi bod yn dathlu ar ôl cael ei chyhoeddi fel enillydd Gwobr Cymdeithas Sir Drefaldwyn ar gyfer Addysg Bellach 2024 eleni.
Cyflwynwyd y Wobr gan lywydd presennol y Gymdeithas Dr. Gareth Jenkins mewn seremoni fach a fynychwyd gan rai o deulu a ffrindiau Menna. Eglurodd Dr. Jenkins ychydig am y Gymdeithas, sy’n sefydliad elusennol wedi’i leoli yn Llundain y mae gan ei haelodau ddiddordeb parhaus yn Sir Hanesyddol Drefaldwyn yng Nghymru. Mae’r sefydliad wedi cefnogi ac annog myfyrwyr yn y Coleg ers tro drwy roi cyfle i gael eu dewis ar gyfer eu gwobr Addysg Bellach.
Magwyd Menna ar fferm defaid a chig eidion yng Nghanolbarth Cymru gan weithio gyda’i rhieni ac ochr yn ochr â’i brodyr hŷn. Mae Menna bob amser wedi mwynhau gweithio ar y fferm deuluol. Ar ôl gadael yr ysgol gyda chanlyniadau TGAU rhagorol, dewisodd astudio Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth. Mae hi hefyd yn gweithio’n rhan-amser ar fferm da byw ym Meifod, yn ogystal â helpu ar fferm ei theulu ei hun. Mae Menna yn gobeithio parhau â’i haddysg yn y dyfodol gan astudio HND neu Radd mewn Amaethyddiaeth ac yna ennill profiad pellach yn gweithio ar ffermydd yn y DU neu dramor. Mae Menna yn gweld ei dyfodol hirdymor yn Sir Drefaldwyn yn helpu ffermwyr i ddatblygu eu busnes i ddod yn fwy cynaliadwy.
Dywedodd y Darlithydd Amaethyddiaeth Neil Bowden, ‘Mae Menna yn fyfyrwraig hynod weithgar ac mae’n bleser ei chael yn yr ystafell ddosbarth ac allan ar y fferm wrth wneud gweithgareddau ymarferol. Mae Menna bob amser yn cyfrannu at drafodaethau ac yn rhoi ei holl ymdrechion i mewn i weithgareddau yn y ddwy sefyllfa. Mae hi’n haeddu’r wobr hon i gydnabod ei gwaith caled, a dymunwn y gorau iddi yn y dyfodol.’
Diolchodd Rheolwr Coleg y Drenewydd Steve Cass i Dr. Gareth Jenkins o Gymdeithas Sir Drefaldwyn am gyflwyno’r Wobr ac am eu diddordeb ac ymrwymiad parhaus i gefnogi ac ysbrydoli pobl ifanc yn y Coleg.