Annog Bechgyn i Ddawnsio!

Male dancer on stage

Dawns, symud, theatr gorfforol…beth bynnag yr hoffech ei alw, nawr yw’r amser i helpu bechgyn i frwydro yn erbyn y stigma sy’n gysylltiedig â dawns, gan ryddhau potensial llawn dawnswyr gwrywaidd ym mhobman!

Lloyd Newson, Matthew Bourne, Nigel Charnock, Hofesh Shecter, Wayne McGreggor, Akram Khan, Sidi Larbi Cherkaoui, Richard Alston, Christopher Bruce – mae’r rhestr o ddawnswyr a choreograffwyr gwrywaidd yn mynd ymlaen ac ymlaen.  Mae bechgyn yn parhau i gyfrannu at fyd dawns ar draws y cenedlaethau, ond er mawr syndod yn 2024, mae’n dal yn her i gael bechgyn i ddawnsio!

Mae gan Craig Coombs, Arweinydd Pwnc ar gyfer Dawns yng Ngholeg Castell-nedd, rhan o Grŵp Colegau NPTC fwy nag 20 mlynedd o brofiad yn gweithio ym myd addysg dawns a dywedodd;

“Mae dawns i bawb ac mae’n hen bryd i ni gyd wneud rhywbeth i annog bechgyn i ddewis dawns eto.  Rwyf wedi gweld cynnydd a dirywiad yn nifer y bechgyn sy’n dewis dawns yn fy ngyrfa ac mae’n bryd cydnabod bellach fod gennym ni i gyd gyfrifoldeb i herio stereoteipiau hen ffasiwn a chael bechgyn yn ôl i’r stiwdio ddawns, lle gallant gyflawni eu potensial dawns llawn.”

Mae llawer o ddawnswyr gwrywaidd ifanc yn amharod i fynychu dosbarthiadau dawns oherwydd rhagfarn ac ofn cael eu barnu gan ffrindiau a theulu.  Y camsyniadau sy’n gysylltiedig â dawns a allai fod yn achosi i lawer o fechgyn gerdded i ffwrdd o rywbeth y maent yn ei fwynhau a cholli allan ar bosibiliadau gyrfa sy’n gysylltiedig â dawns yn y dyfodol.

Aeth Craig Coombs, a fu’n dawnsio i’r cwmni dawns dynion-yn-unig ‘Dynion’ ac sydd wedi gweithio gyda Henri Oguike, Sean Tuan John a Douglas Comply ymlaen i ddweud;

“Mae’n llawer rhy gyffredin nad yw’r argraff o ddawns a roddir i fechgyn yn cyd-fynd â realiti yr hyn yw dawns o gwbl.  Nid twtws pinc ac esgidiau bale yw’r stori gyfan!  Yn wir, mae’r heriau corfforol sylweddol i unrhyw un yn y stiwdio ddawns ar yr un lefel ag unrhyw gamp chwaraeon a gynigir i fechgyn!  Mae angen disgyblaeth, cryfder, ymroddiad ac angerdd.  Yn bersonol, roedd gweithio ochr yn ochr â dawnswyr gwrywaidd eraill yn rhan bwysig o’m datblygiad perfformiad fy hun hefyd.”

Mae Coleg Castell-nedd wedi bod ar y blaen ers tro ar gyfer addysg ddawns yng Nghymru ac mae’n arwain y ffordd ar gyfer dawns i ddynion hefyd.  Mae ‘Cwmni Dawns Ieuenctid LIFT’, ‘Fairytale Productions’ a ‘Blast’ i gyd wedi paratoi’r ffordd ar gyfer bechgyn mewn addysg ddawns, gan helpu i godi proffil dawns dynion yn yr ardal. Mae llawer o fechgyn ifanc wedi mynd ymlaen i hyfforddi mewn conservatoires addysg uwch ar ôl darganfod dawns yng Ngholeg Castell-nedd, megis; Arts Educational School, Trinity Laban, The Northern School of Contemporary Dance, London Contemporary Dance School, London Studio Centre, The Urdang Academy and Dance Addict.

Bydd Craig Coombs yn dechrau gweithio ar brosiect dawns newydd i ddynion yn unig ym mis Medi;

“Mae’n amser nawr i ail-fuddsoddi mewn dawns i ddynion eto, gan fod yna brinder bechgyn a dynion yn amlwg yn dewis dawns.  Drwy ail-lansio ein llwyfan dawnsio i fechgyn yn unig, rwy’n gobeithio gweld mwy o fechgyn yn ymgysylltu â dawns. Mae hyn yn cefnogi gweledigaeth gyffredinol Cymru ar gyfer dawns, gan fod sefydliadau eraill fel Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru a Bale Cymru hefyd wedi nodi’r angen am fwy o fechgyn mewn dawns. Rwy’n gyffrous i ddod o hyd i berfformwyr dawns gwrywaidd y genhedlaeth nesaf.”

Mae Coleg Castell-nedd nawr yn paratoi i gyrraedd talent gudd bechgyn ar draws Castell-nedd Port Talbot, yn y gobaith o danio eu hangerdd am ddawns!

Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae darlithwyr dawns Coleg Castell-nedd wedi cyfrannu’n falch at ddatblygiad hyfforddiant llawer o fechgyn, gan weld llawer ohonynt yn dewis hyfforddiant dawns yn llwyddiannus mewn sefydliadau addysg uwch sy’n arwain y sector.

Am ragor o wybodaeth ar sut i gymryd rhan mewn dawns yng Ngholeg Castell-nedd cysylltwch â: craig.coombs@nptcgroup.ac.uk

Gweler y rhestr isod o rai o fyfyrwyr dawns gwrywaidd alumni Coleg Castell-nedd:

Kyle Ball (The Urdang Academy)

Daniel Urch (Arts Educational Schools)

Tom Jones (Trinity Laban)

Brandon Jones

Jac Evans-Mason (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant)

Adam Baker (Arts Educational School)

Jordan Cranny (London Contemporary Dance School)

James Price

Francesco Orlando (The Northern School of Contemporary Dance)

Marc Lewis

Simon William

James Hopcutt

Elis Thomas (London Contemporary Dance School)

Alex Morgan

Daniel Thatcher (Prifysgol Roehampton)

Ashleigh Williams (London Studio Centre)

Lloyd Fernquest (Prifysgol Roehampton)

James Lewis

Ronan Rees (The Urdang Academy)

Daniel Coombe (The Northern School of Contemporary Dance)

Neirin Baggridge (London Studio Centre)

Robert Noble

Ben Bateman

Olly Pickering (Prifysgol Southbank Llundain)

Oren Mcchue (Prifysgol Gorllewin Llundain)

Lewis Ansell (The Wilkes Academy)

Anton Hinchliffe (The Northern School of Contemporary Dance)

Joseph Robinson (Ysgol Actio Guildford)

Shayne Pearson (Trinity Laban)

Dylan Smith (Glasgow Academy of Musical Theatre Arts)

Lewis Cole (London Contemporary Dance School)