Cynhaliodd Grŵp Colegau NPTC ei drydedd Gynhadledd Iechyd Meddwl flynyddol yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu. Yn ystod y diwrnod cafwyd sgyrsiau am iechyd meddwl, yn ogystal ag awgrymiadau ar sut y gall unigolion wella eu hiechyd a’u llesiant eu hunain a sut i helpu eraill.
Prif siaradwr y dydd oedd y darlledwr Prydeinig, newyddiadurwr a chyflwynydd tywydd sy’n adnabyddus am ei gwaith ar ITV, Ruth Dodsworth.
Siaradodd Ruth am y gamdriniaeth aeth drwyddi yn ei phriodas flaenorol, sydd bellach wedi ei hannog i eiriol yn erbyn cam-drin domestig. Effeithiwyd arni gan ymddygiad gorfodi a rheoli ei chyn bartner, yn enwedig gyda chyllid. Er bod Ruth wedi gallu parhau i fod yn broffesiynol yn ei gwaith, treuliodd 20 mlynedd ar bigau’r draen, gan golli cysylltiad â’i ffrindiau a’i theulu. Mae hi nawr yn defnyddio ei phrofiad i roi gwybod i bobl am ei phrofiad, arwyddion cam-drin domestig, a sut y gallwch chi gael help i chi’ch hun neu i rywun arall.
Dywedodd: “Mae siarad am brofiad yn fath o lesiant, mae 1 o bob 3 menyw ac 1 o bob 5 dyn yn profi cam-drin domestig. Os ydych chi’n meddwl bod rhywun rydych chi’n ei adnabod yn dioddef cam-drin domestig, gofynnwch iddyn nhw a ydyn nhw’n iawn.”
Siaradodd Ruth hefyd am Gyfraith Clare, a elwir hefyd yn Gynllun Datgelu Trais Domestig (DVDS), sef polisi’r heddlu sy’n rhoi’r hawl i bobl wybod a oes gan eu partner presennol neu gyn-bartner unrhyw hanes blaenorol o gam-drin neu drais.
Siaradwr gwadd arall oedd Andrew Marshall a ddefnyddiodd y Paradocs Tsimp i egluro sut mae’r meddwl dynol yn gweithio. Trafodwyd ymarfer corff a maeth hefyd gydag Emma J o Lifeshaper, hyfforddwr sy’n helpu pobl i adennill eu hunaniaeth. Ar ôl anaf difrifol i’r pen mewn damwain car yn 2002, dioddefodd Emma o iselder, a defnyddiodd ymarfer corff a maeth da i ddod allan ohono. Gall straen effeithio ar eich hormonau, sydd wedyn yn cael effaith ar eich awch am fwyd, egni a chwantau. Dywedodd Emma nad yw mynd ar ddeiet yn ymwneud â thorri i lawr ar yr hyn rydych chi’n ei fwyta yn unig, ond canolbwyntio ar yr hyn rydych chi’n ei roi yn eich corff i gael effaith well ar eich hormonau.
Cafwyd sgwrs gan Melanie Dunbar, Cyfarwyddwr AD a Kathryn Dunstan, Cyfarwyddwr Partneriaethau Grŵp Colegau NPTC ar y bartneriaeth ddiweddar gyda Shelter Cymru, elusen digartrefedd Cymru. Nod y bartneriaeth yw annog staff a myfyrwyr y coleg i wirfoddoli pan allant i godi ymwybyddiaeth am ddigartrefedd yn ogystal â chodi arian i Shelter Cymru, fel y gallant gael adnoddau hollbwysig. Mae’r GIG wedi nodi ‘Rhoi i eraill’ fel un o’r pum cam i Lesiant Meddwl. Mae ymchwil yn awgrymu y gall gweithredoedd caredig helpu i wella’ch llesiant meddwl trwy: creu teimladau cadarnhaol ac ymdeimlad o fudd, rhoi teimlad o bwrpas a hunanwerth a helpu i gysylltu â phobl eraill. Y gobaith yw y bydd y prosiect hwn o fudd i’r holl randdeiliaid.
I gloi’r diwrnod, rhoddodd Catherine Lewis, Pennaeth y Coleg, sgwrs ar fanteision symud i’ch iechyd meddwl. Siaradodd Catherine am ei hymweliad diweddar â Slofenia lle mae rhaglen iechyd newydd yn helpu’r genedl. Mae pobl ifanc yn cael pum awr o addysg gorfforol yr wythnos, i’w cadw’n heini ac iach. Nid yn unig y maent yn gweld y manteision corfforol ond yr effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl hefyd.
“Roedd y Gynhadledd Iechyd Meddwl yn gyfle gwych i aelodau o staff ddod at ei gilydd a dysgu sut y gallant helpu eu cydweithwyr gydag unrhyw drafferthion y gallent fod yn mynd drwyddynt. Nid yn unig roedd yn brofiad dysgu gwych, ond roedd hefyd yn gyfle da i bawb ddod at ei gilydd a dal i fyny y tu allan i’w swyddfeydd a chlywed am y gwahanol brofiadau mae pawb wedi bod yn mynd drwyddynt,” meddai’r trefnydd Lesley Havard, Cydlynydd Iechyd a Llesiant yng Ngrŵp Colegau NPTC.