Cyhoeddwyd bod deuddeg o fyfyrwyr o Grŵp Colegau NPTC wedi’u henwi ymhlith y 106 o derfynwyr o Gymru a fydd yn y Rownd Derfynol o’r Gystadleuaeth WorldSkills UK a gynhelir rhwng 19 a 22 Tachwedd ledled Manceinion Fawr. Eleni, bydd y terfynwyr yn cystadlu mewn mwy na 40 o sgiliau, yn cynnwys disgyblaethau megis Celf Gemau 3D, Gweithgynhyrchu Adiol, Weldio a Thirlunio.
Rydym yn cynnig ein llongyfarchiadau i’n terfynwyr:
Jordan Lingham – Atgyweirio Cyrff Cerbydau Modur
Victoria Steele – Ailorffennu Cerbydau Modur
Ryan Blinston – Celfyddydau Coginio
Thomas Brack – Celfyddydau Coginio
Connor Blair – Sgiliau Sylfaen Garddwriaeth
Steven Cowley-Ford – Sgiliau Sylfaen: Atebion Meddalwedd TG i Fusnesau
Jake Bissmire – Sgiliau Sylfaen: Atebion Meddalwedd TG i Fusnesau
Chloe Pugh – Sgiliau Sylfaen: Gwasanaethau Bwyty
Joshua Punchard – Technegydd Labordy
Jackson Cole – Technegydd Labordy
Logan Johnson – Technegydd Labordy
Poppy Bowen-Heath – Gwasanaethau Bwyty
Bydd y terfynwyr ac enillwyr medalau yn cael eu hanrhydeddu yn Neuadd Bridgewater, sef neuadd o fri ym Manceinion ddydd Gwener 22 Tachwedd. Bydd y cystadlaethau Sgiliau Sylfaenol a’r seremoni wobrywo gysylltiedig hefyd yn cael eu cynnal yng Nghampws Dinas Coleg Manceinion ddydd Gwener 22 Tachwedd.
Yn ogystal â hybu eu sgiliau a’u hyder, bydd cystadleuwyr sy’n gwneud argraff o dan bwysedd y rownd derfynol genedlaethol hefyd yn cael y cyfle i gynrychioli’r DU o bosib yn y Gystadleuaeth Sgiliau Olympaidd a gynhelir yn Shanghai yn 2026.
Dywedodd Paul Evans, Cyfarwyddwr Prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru:
“Dangoswyd cynifer o sgiliau trosglwyddadwy gan bawb sydd wedi cymryd rhan yn y rowndiau cymhwyso – o berfformio o dan bwysedd a gwytnwch, i reoli amser, rydyn ni wedi gweld popeth. Rydyn ni’n hynod o falch o Dîm Cymru a’i awydd i gyrraedd rhagoriaeth.
Llongyfarchiadau a Phob Lwc i’r rheiny sydd wedi cael eu dewis i gynrychioli Cymru yn Rowndiau Terfynol y DU, rwy’n edrych ymlaen at eich gweld yn y rowndiau terfynol”.
Dywedodd Jeremy Miles Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru a Gweinidog dros Yr Economi, Ynni a’r Gymraeg:
“Fel cenedl, rydyn ni’n credu mewn buddsoddi mewn cenedlaethau’r dyfodol ac mae cystadlaethau sgiliau yn ddull effeithiol o wella ymgysylltiad a rhoi’r sgiliau sydd eu heisiau ar bobl ifanc er mwyn iddynt adeiladu gyrfaoedd cadarn.
“Mae llwyddiannau ein cystadleuwyr sy’n cael eu dathlu gennym ni bob blwyddyn yn dangos yr holl ddawn a photensial sydd ar gael yng Nghymru gan roi sylw i’r hyfforddiant o ansawdd a roddir iddynt. Mae cystadlu’n hyrwyddo darparu a datblygu sgiliau ar draws y genedl.
“Mae’r rhaglen WorldSkills a’r cystadlaethau Skills Build yn helpu i greu gweithlu addas ar gyfer y dyfodol trwy alluogi pobl ifanc i feistroli sgiliau ymarferol yn gystadleuol ar yr un pryd ag arddangos eu potensial ar lwyfan byd-eang.”
Gallwch ddarllen mwy gan WorldSkills UK ac Ysbrydoli Sgiliau yng Nghymru, a gweld y rhestr gyflawn o derfynwyr isod: