Defnyddiodd myfyriwr mewn Twristiaeth Ryngwladol a Rheoli Digwyddiadau o Goleg Castell-nedd ei sgiliau a’i gwybodaeth newydd i’r eithaf dros yr haf wrth iddi llwyddo i gael profiad gwaith mewn asiantaeth deithio leol.
Cyflawnodd Sophia Rabaiotti, sy’n cychwyn ar ail flwyddyn ei gradd BA (Anrh) mewn Twristiaeth Ryngwladol a Rheoli Digwyddiadau, brofiad gwaith gwerthchweil mewn asiantaeth deithio leol lle yr oedd yn cynllunio a bwcio trefniadau teithio yn cynnwys hedfan, llety a gweithgareddau. Roedd y profiad wedi rhoi cyfle i Sophia ddefnyddio’r hyn yr oedd wedi’i ddysgu fel rhan o’i gradd, gan ei helpu i gymhwyso’r wybodaeth ddamcaniaethol at sefyllfaoedd y byd go iawn, ar yr un pryd â chynnig gwell ddealltwriaeth o dueddiadau mewn twristiaeth a gwasanaethau cwsmeriaid. Llwyddodd i gael cipolwg ar y diwydiant twristiaeth a oedd yn ei helpu i gynllunio llwybr gyrfaol ar ôl cyflawni ei gradd.
Mae gradd Sophia yn cwmpasu ystod eang o feysydd o fewn i ddiwydiannau teithio, twristiaeth a digwyddiadau, fel Marchnata, ymddygiad sefydliadol, gweithrediadau teithiau rhyngwladol, rheoli digwyddiadau ymarferol, rheoli adnoddau dynol cyfoes a llawer mwy. Ar ôl cyflawni ei gradd mewn Campws Prifysgol, Grŵp Colegau NPTC, mae Sophia yn gobeithio dilyn gyrfa mewn twristiaeth, yn arbennig ym maes Marchnata neu reoli digwyddiadau.
Mewn ymateb i’r cwestiwn beth oedd Sophia yn ei fwynhau o ran astudio gradd yn y coleg, dywedodd: “Rydw i wir yn mwynhau’r amrywiaeth o fodiwlau a’r profiadau ymarferol fel cynllunio taith dramor er mwyn archwilio diwylliannau gwahanol. Mae’r dosbarthiadau llai a’r darlithwyr ardderchog cefnogol wedi gwella fy mhrofiad dysgu o lawer ac wedi creu amgychedd dysgu mor ffantastig. Mae fy ngradd yn rhoi’r sgiliau hanfodol i fi er mwyn i fi symud ymlaen i’r diwydiant teithio, diolch i’r modiwlau gwerthchweil hynod o berthnasol.”
Ymunodd Sophia â Grŵp Colegau NPTC yn syth ar ôl yr ysgol gan astudio Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngholeg Castell-nedd am ddwy flynedd. Aeth ymlaen wedyn i gyflawni prentisiaeth mewn nyrsio deintyddol cyn dychwelyd i’r coleg i astudio ei gradd.
Ers dychwelyd mae Sophia wedi chwarae rhan yn Undeb y Myfyrwyr, gan feddu ar swydd Swyddog Myfyrwyr Addysg Uwch lle y mae hi’n cynrychioli’r holl fyfyrwyr Addysg Uwch ar draws y Coleg ac yn helpu gydag ymgyrchoedd Undeb y Myfyrwyr. Mae hi hefyd yn Llysgennad Myfyrwyr Campws Prifysgol ac yn gweithio gyda myfyrwyr Campws Prifysgol, cynrychiolwyr myfyrwyr ac Undeb y Myfyrwyr gan gysylltu ag Uwch Dîm Rheoli’r Coleg, yn trafod unrhyw anawsterau sy’n wynebu myfyrwyr o bosib ac yn hyrwyddo syniadau sydd o fudd i fyfyrwyr. Mae Sophia yn teimlo bod y rolau myfyrywyr hyn yn ei hymbaratoi ar gyfer y gweithle gan ei galluogi i ddatblygu’r sgiliau cyfathrebu hanfodol sydd eu hangen mewn sefyllfaoedd proffesiynol.
Mae Sophia wedi gwneud argraff ar Vicky Burroughs sef Pennaeth Cynorthwyol: Addysg Uwch trwy gydol ei hamser yn y coleg. Dywedodd: “Mae Sophia yn fyfyriwr rhagorol sy’n cymryd pob cyfle sydd ar gael iddi hi yn ein Campws Prifysgol, Grŵp Colegau NPTC. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Sophia wedi parhau i gytbwyso ei chyflogaeth mewn manwerthu ac wedi llwyddo i gael profiad cyffrous yn y diwydiant teithio. Mae Sophia wedi gweithio’n galed i hyrwyddo lleisiau myfyrwyr ac yn parhau i gefnogi a chynrychioli ein myfyrwyr lefel prifysgol ar draws y coleg, trwy gynnal ymgyrchoedd a mentrau ynglŷn â materion o bwys. Rwy’n awyddus i weld beth mae hi’n cyflawni yn ystod ail flwyddyn ei gradd a gweld y cynlluniau ar gyfer yr ymweliad cwrs gradd i Wlad y Thai ym mis Mawrth 2025 yn dod i’r amlwg.”
Mae gradd Sophia yn ei hymbaratoi ar gyfer ei dyfodol ac os hoffech ddilyn yn ei chamre neu am weld pa gyrsiau addysg uwch sydd ar gael gennym, cliciwch y botymau isod.
Yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2024, rhoddwyd ein myfyrwyr Campws Prifysgol 100% i Grŵp Colegau NPTC am gymorth academaidd a 100% am gefnogi profiad dysgu eu myfyrwyr. Mae’r Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn arolwg blynyddol sy’n gofyn i fyfyrwyr israddedig, yn eu blwyddyn olaf, fynegi eu barnau am eu profiad prifysgol. Mae’r arolwg yn rhoi cyfle i fyfyrwyr raddio eu profiad ym meysydd megis ansawdd addysgu, datblygiad personol a chymorth academaidd, trefniant a rheolaeth o fewn i’w hadran, ynghyd ag ansawdd yr adnoddau dysgu.
Twristiaeth Ryngwladol a Rheoli Digwyddiadau – BA (Anrh) (Amser-Llawn)