Sêr y Coleg yn Disgleirio yn y Gwobrau Myfyrwyr, yn Dathlu Rhagoriaeth ac Ymroddiad

Dathlwyd rhai o fyfyrwyr disgleiriaf a mwyaf addawol Cymru yn seremoni Gwobrau Myfyrwyr blynyddol Grŵp Colegau NPTC, a gynhaliwyd yng Ngholeg Castell-nedd. Amlygodd y digwyddiad nid yn unig lwyddiant academaidd, ond cyflawniadau personol sydd wir wedi gosod y myfyrwyr hyn ar wahân.

Roedd y noson yn orlawn o straeon ysbrydoledig, wrth i un myfyriwr o bob maes academaidd gael ei anrhydeddu fel Enillydd Gwobr Ysgol. Ychwanegodd gwobrau arbennig fel Myfyriwr y Flwyddyn Addysg Uwch, Myfyriwr y Flwyddyn Hyfforddiant Pathways, a Dysgwr y Flwyddyn sy’n Oedolyn at y cyffro, gan arddangos doniau amrywiol y Coleg.

Rhai o ddigwyddiadau arbennig y noson oedd dathlu James Luc Martin, Myfyriwr y Flwyddyn Hyfforddiant Pathways, a enwyd yn ddiweddar fel y Briciwr Gorau yn y DU, Jake Rees a dderbyniodd Wobr Ysgol Ramadeg Glan Afan am y Safon Uwch Gorau mewn Gwyddoniaeth, a Tavian James a gafodd Wobr Ysgol Sir Port Talbot am y Safon Uwch Gorau yn y Celfyddydau.

Nid anghofiodd y Coleg ei staff ychwaith, gyda chydnabyddiaeth i’r aelod staff ymroddedig, Laura Hoare, o lyfrgell y Coleg. Cafodd Laura ei hanrhydeddu am ei hymdrechion rhyfeddol i wneud y Coleg yn ofod bywiog, cynhwysol ar gyfer ei fyfyrwyr niwrowahanol. Cafodd ei hymrwymiad i feithrin amgylchedd lle gall pob myfyriwr ffynnu ei gydnabod gyda chymeradwyaeth gynnes.

Daeth y noson i ben gyda gwobr fawreddog Myfyriwr Cyffredinol y Flwyddyn. Cafodd y Prif Weithredwr Mark Dacey y dasg heriol o ddewis yr enillydd cyffredinol o blith y myfyrwyr rhagorol a gafodd eu cydnabod y noson honno. Eleni, aeth yr anrhydedd i Gyunesh Uysal, a enwyd hefyd yn Ddysgwr y Flwyddyn Mynediad i Addysg Uwch.

Nid yw stori Gyunesh yn ddim llai na rhyfeddol. Er mai Saesneg yw ei thrydedd iaith, gwnaeth argraff gyson ar ei darlithwyr gyda’i hetheg gwaith anhygoel, gan ennill lle ym Mhrifysgol Abertawe i astudio nyrsio. Roedd ei thaith hyd yn oed yn fwy rhyfeddol wrth iddi gydbwyso ei hastudiaethau â magu dau o blant ifanc a helpu i redeg busnes ei theulu.

Dywedodd Mark Dacey, wrth gyflwyno’r wobr:

“Mae’r penderfyniad hwn bob amser yn anodd oherwydd mae lefel y cyflawniad ar draws y gwobrau mor uchel. Ond roedd penderfyniad a gwytnwch Gyunesh wrth wynebu heriau personol aruthrol yn wirioneddol sefyll allan. Mae sicrhau lle ym Mhrifysgol Abertawe i ddilyn nyrsio, gyda Saesneg fel ei thrydedd iaith, yn rhyfeddol. A phan glywch chi’r cymhelliant y tu ôl i’w breuddwyd i ddod yn nyrs, nid oedd unrhyw amheuaeth pwy oedd yn haeddu Gwobr y Prif Weithredwr eleni.”

Taniwyd angerdd Gyunesh am nyrsio pan gafodd ei mab ddiagnosis o lewcemia yn 2016.

Rhannodd ei thaith deimladwy:

“Treuliodd fy mab dair blynedd a hanner yn yr ysbyty, ac yn ystod y cyfnod hwnnw penderfynais fy mod eisiau bod yn nyrs. Yn 42, gyda dau o blant a dim TGAU, gan mai Saesneg oedd fy nhrydedd iaith, ymunais â Choleg Castell-nedd, ac roedd fy narlithwyr mor gefnogol. Rwy’n hynod ddiolchgar iddyn nhw ac i’m teulu am fy helpu i wireddu’r freuddwyd hon.”

Ychwanegodd ei mab, yn llawn balchder:

“Yn ystod yr amseroedd anodd hynny pan oedd gen i ganser, fe wnaeth fy mam oedi ei haddysg i ofalu amdanaf. Nawr, ar ôl yr holl flynyddoedd hyn, mae hi wedi cyflawni ei nod, a allwn i ddim bod yn fwy balch.”

Llywyddwyd y seremoni wobrwyo gan y cyflwynwyr radio lleol poblogaidd, Leigh a Claire o Hits Radio, a ddaeth ag egni a chynhesrwydd wrth iddynt gyhoeddi’r enwebeion a’r enillwyr drwy gydol y noson.

Mae myfyrwyr yng Ngrŵp Colegau NPTC yn parhau i gyflawni canlyniadau rhagorol, gyda 2024 yn flwyddyn uchafbwynt arall. Roedd gan y Coleg gyfradd lwyddo gyffredinol drawiadol o 99%, gyda dros hanner y myfyrwyr yn ennill graddau A*–B a mwy na chwarter yn ennill graddau A*–A. Gwnaeth y myfyrwyr yn y rhaglen Rhagoriaeth Dawnus a Thalentog (GATE) osod y bar hyd yn oed yn uwch, gyda 84% yn ennill graddau A*–A a 100% yn ennill graddau A*–B.

Daeth Mark Dacey â’r noson i ben trwy fynegi ei edmygedd tuag at y myfyrwyr:
“Mae’n anrhydedd llongyfarch yr holl fyfyrwyr am eu gwaith caled a’u hymroddiad. Mae’r Gwobrau Myfyrwyr yn dathlu’r ymdrech ryfeddol y mae’r unigolion hyn wedi’i rhoi i’w hastudiaethau. Ar ran staff Grŵp Colegau NPTC a Bwrdd y Llywodraethwyr, estynnaf fy llongyfarchiadau gwresog i holl enillwyr y gwobrau, a diolch yn arbennig i bawb a wnaeth y digwyddiad hwn yn gymaint o lwyddiant.”

Roedd yn noson i’w chofio, yn llawn straeon twymgalon am ddyfalbarhad, ymrwymiad, ac addewid o ddyfodol disglair i’r holl fyfyrwyr arobryn.

Enillwyr y Gwobrau

Myfyriwr y Flwyddyn Academi’r Chweched Dosbarth – Lloyd Jenkins

Myfyriwr y Flwyddyn Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu – Ellie O’Mahoney

Myfyriwr y Flwyddyn Rheolaeth Busnes a Thwristiaeth – Caitlyn White

Myfyriwr y Flwyddyn Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol – Chenjin Yu

Myfyriwr y Flwyddyn Ysgol Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig – Eleanor-May Picksley

Myfyriwr y Flwyddyn Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio – Noah Barker, Dominic Bowen, Aaron Miller, Kiera Montgomery, Skye Sloots, Kai Woolley.

Myfyriwr y Flwyddyn Arlwyo, Garddwriaeth ac Amaethyddiaeth – Milly Jazmin Williams

Myfyriwr y Flwyddyn Peirianneg – Noah Bradbeer

Myfyriwr y Flwyddyn Astudiaethau Sylfaen – Beth Jones

Myfyriwr y Flwyddyn Gwallt a Therapïau Cymhwysol – Sophie Griffiths

Myfyriwr y Flwyddyn Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant – Kelsey Burke

Myfyriwr y Flwyddyn Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus – Cerys Williams

Gwobr Ysgol Ramadeg Glan Afan ar gyfer y Safon Uwch gorau mewn Gwyddoniaeth 2024 – Jake Rees

Gwobr Ysgol Sirol Port Talbot ar gyfer y Safon Uwch Gorau yn y  Celfyddydau 2024 – Tavian James

Gwobr Mathemateg William Lewis Jones – Alfie Anley

Gwobr Saraswati – Nathan Morrison a Halyna Deriavka

Myfyriwr y Flwyddyn Hyfforddiant Pathways – James Luc Martin

Myfyriwr y Flwyddyn Prentis Iau Phil McNeil – Morgan Davies Mogford

Gwobr Ysbryd Entrepreneuraidd – Keiron Clarke ac Aleksandrs Arustamjans

Dysgwr y Flwyddyn sy’n Oedolyn – Polly Bailey a Karen Hallam

Myfyriwr y Flwyddyn Mynediad i Addysg Uwch –  Halyna Deriavka & Gyunesh Uysal

Myfyriwr y Flwyddyn Addysg Uwch – Jodie Langdon

Gwobr John Brunt – Seren Deaval

Myfyriwr sy’n Dysgu Cymraeg – Menna Jones

Gwobr Cymraeg yn y Gweithle – Amy Hughes

Gwobr Staff Bwrdd y Gorfforaeth –  Laura Hoare

Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn y Prif Weithredwr – Gyunesh Uysal