Rhowch y dyddiad yn eich Calendr: Digwyddiad Dathlu Cymuned Ceidwaid Sgiliau yng Nghanolfan Ffitrwydd Afan

College staff at the Community Engagement Event at Cwmavon

Mae’r prosiect llwyddiannus Ceidwaid Sgiliau yn croesawu digwyddiad dathlu yng Nghwm Afan yn ystod hanner tymor yr hydref.

Mae’r prosiect Ceidwaid Sgiliau a reolir gan Grŵp Colegau NPTC, yn dathlu 10 mis o ymgysylltu’n llwyddiannus â Chwm Afan. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae cannoedd o bobl o’r ardal a thu hwnt wedi ymgysylltu ac wedi mynychu digwyddiadau a gweithgareddau amrywiol. Mae wedi bod yn daith werthfawr o gefnogi unigolion trwy hyfforddiant sgiliau pwysig a llwybrau i gyflogaeth. Gyda hwb gan ymrwymiad sefydliadau eraill sydd wedi helpu gyda’r broses ymgysylltu, mae’r Coleg yn edrych ymlaen at barhau i ymgysylltu â’r gymuned yn yr ardal gan obeithio bod hyn yn fan cychwyn twf parhaus yn y cyfleoedd y gall Grŵp Colegau NPTC eu cynnig ar gyfer cymunedau Cwm Afan.

Dywedodd Gemma Charnock, Is-bennaeth: Corfforaethol ac Ysgrifennydd Cwmni’r Grŵp: “Rydyn ni’n hynod o falch o’r gwaith rydyn ni wedi ei gyflawni yng Nghwm Afan. Mae’r cymorth a’r ymgysylltiad gan y gymuned wedi bod yn allweddol o ran gwneud i’r prosiect hwn yn un llwyddiannus ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddathlu ein cyflawniadau ar y cyd.”

Beth am alw heibio ac ymweld â ni ddydd Mercher, 30 Hydref yng Nghanolfan Ffitrwydd Afan, Ysgol Gynradd Cymer, rhwng 10.30am a 2.30pm?

Bydd ymwelwyr yn gallu cyflawni gweithgareddau hwyl, gweld amrywiaeth o stondinau, bwydydd am ddim a llawer mwy. Mae’r digwyddiad yn cynnig cyfle ardderchog i ymgysylltu â phobl eraill, dysgu am yr adnoddau sydd ar gael ac ymchwilio i’r cyfleoedd addysgol sydd ar gael gan Grŵp Colegau NPTC.