Academi Ffasiwn a Thecstilau’r Drenewydd yn Dadorchuddio yn yr Adeilad Pryce Jones Eiconig: Mae Pennod Ffasiynol Newydd yn Dechrau

Vice Principal Gemma Charnock, Campus Manager Steve Cass and Councillor David Selby standing outside the entrance to the Pryce Jones Building with two pull-up banners with Newtown Fashion & Textiles Academy branding.

Bydd Academi Ffasiwn a Thecstilau’r Drenewydd, sy’n barod i lansio eleni, yn dod ag addysg ffasiwn ar flaen y gad i’r Adeilad Pryce Jones eiconig, safle sydd wedi’i drwytho mewn hanes cyfoeth o wneud dillad. Bydd gan ddarpar ddylunwyr ffasiwn ac oedolion sydd am uwchsgilio’r cyfle i greu eu dyluniadau eu hun, barod ar gyfer y rhedfa, o dan arweinyddiaeth gweithwyr proffesiynol y diwydiant.

Lleolir yr Academi newydd fywiog hon yn y Warws Cymreig Brenhinol, a elwir hefyd yn Adeilad Pryce Jones, safle hanesyddol sydd wedi croesawu eiconau’r byd ffasiwn fel Laura Ashley a Pryce Jones, a oedd yn arloesi cynhyrchu dillad yn y fro. Mae’r Academi Ffasiwn yn anelu at symud yr etifeddiaeth o fri yn ei blaen.

Bydd yr Academi Ffasiwn a Thecstilau yn cynnig ystod o gyrsiau rhan-amser, yn cynnwys gwnïo, gwnïo â pheiriant a dylunio patrymau arwyneb, ar gyfer oedolion sydd eisiau dechrau neu symud ymlaen ym myd ffasiwn. Ar ben hynny, bydd yn croesawu myfyrwyr o’r rhaglen Lefel 3 mewn Ffasiwn Gynaliadwy Coleg Y Drenewydd, gan gymysgu arferion cynaliadwy â dylunio creadigol.

Pam Dewis Academi Ffasiwn a Thecstilau’r Drenewydd?

Ar gyfer y rheiny sy’n dilyn gyrfa ym maes ffasiwn, bydd yr Academi yn darparu mynediad heb ei ail i rwydwaith o gyflogwyr a hyfforddiant proffesiynol. Gyda chyfuniad o hyfforddwyr profiadol ac arbenigwyr o Goleg Y Drenewydd wrth y llyw yn dysgu, bydd y cyrsiau yn rhoi’r sgiliau ymarferol i fyfyrwyr, yn ogystal â’r wybodaeth hanfodol mewn busnes sydd ei hangen yn y diwydiant.

Bydd yr Academi yn adnewyddu llawr gwaelod yr Adeilad Pryce Jones yn llwyr, yn trawsnewid y gofod gyda chyfarpar ar flaen y gad a chyfleusterau a ddyluniwyd i ysbrydoli cenhedlaeth nesaf dyfeiswyr pethau newydd ym myd ffasiwn.

Mae wedi derbyn £526,603 gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU (SPF). Crëwyd y wobr gan Fwrdd Partneriaeth Lleol Cronfa Ffyniant Gyffredin Powys, o dan ei thema Pobl a Sgiliau, gyda’r bwriad o ddatblygu’r sector ffasiwn gynaliadwy a symud etifeddiaeth Y Drenewydd ym maes tecstilau yn ei blaen.

Cefnogir bwrdd y bartneriaeth gan Wasanaeth Economi a Hinsawdd Cyngor Sir Powys.

Ymwelodd David Selby Aelod Cabinet ar gyfer Powys Fwy Llewyrchus a Chynghorydd Y Drenewydd â’r adeilad yn ddiweddar a dywedodd:

Dwi wrth fy modd i weld yr adeilad eiconig hwn yn cael ei adnewyddiad fel cartref Academi Ffasiwn a Thecstilau’r Drenewydd. Dyma gyfle ffantastig i feithrin doniau ein pobl ifanc a chadw etifeddiaeth gyfoeth tecstilau yn fyw yn ein cymuned. Bydd yr academi hon yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddylunwyr a hefyd yn cryfhau ein heconomi leol a’n diwydiant creadigol.”

Mynegodd Gemma Charnock, Is-bennaeth: Corfforaethol ac Ysgrifennydd Grŵp Cwmni, Grŵp Colegau NPTC ei brwdfrydedd:

“Rydyn ni’n gyffrous i lansio Academi Ffasiwn a Thecstilau’r Drenewydd. Dyma ddechrau newid aruthrol i’n cymuned. Bydd yn uno’r agweddau creadigol, technegol a busnes ar y diwydiant ffasiwn, gan sicrhau bod ein myfyrwyr wedi ymbaratoi’n llwyr ar gyfer eu gyrfaoedd.”

Cynhelir lansiad swyddogol ar ddydd Mercher 4 Rhagfyr, sef noson fythgofiadwy i ddathlu ffasiwn mewn steil. Bydd gwesteion yn mwynhau arddangosfa arbennig yn dathlu treftadaeth Laura Ashley, yn gweld dyluniadau rhedfa syfrdanol gan ein myfyrwyr dawnus, ac yn clywed gan siaradwyr gwadd ysbrydoledig.

Mae rhagor o wybodaeth am yr Academi Ffasiwn a Thecstilau a sut i wneud cais am gyrsiau yng Ngholeg y Drenewydd ar y dolenni isod.

Diploma Estynedig Lefel 3 Ffasiwn a Dylunio Cynaliadwy (Amser Llawn)

Lefel 1 Ffasiwn a Thecstilau (Rhan-Amser)

Vice Principal Gemma Charnock, Campus Manager Steve Cass and Councillor David Selby standing outside the entrance to the Pryce Jones Building with two pull-up banners with Newtown Fashion & Textiles Academy branding.

Vice Principal Gemma Charnock, Campus Manager Steve Cass and Councillor David Selby standing in a workshop in the Pryce Jones Building with two pull-up banners with Newtown Fashion & Textiles Academy branding.

The stonework on the front of the Pryce Jones Building

Mae Pennod Ffasiynol Newydd yn Dechrau – Lansio’r Academi Ffasiwn a Thecstilau Newydd gan y Cynghorydd David Selby, Is-bennaeth Gemma Charnock, a Rheolwr Campws Steve Cass o Goleg Y Drenewydd.