Llwyddiant WorldSkills i Grŵp Colegau NPTC

Victoria Steele with her gold medal from World Skills

Mae Grŵp Colegau NPTC wedi’i restru yn y 10 uchaf yn y tablau cynghrair Sefydliadau ar gyfer Sgiliau Sylfaenol a chystadlaethau prif ffrwd yn WorldSkills UK.

Mae’n dilyn wythnos o gystadlaethau yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol y DU ar draws SkillBuild a WorldSkills UK lle enillodd Tîm Cymru gyfanswm o 69 o fedalau. Enillodd Grŵp Colegau NPTC dair medal aur a medal efydd, gyda dau fyfyriwr yn cael canmoliaeth uchel hefyd yn y cystadlaethau a gynhaliwyd ym Manceinion.

Bydd rhai o’r enillwyr nawr yn cael eu gwahodd i fod yn rhan o garfan hyfforddi i baratoi ar gyfer WorldSkills Rhyngwladol 2026 yn Shanghai lle bydd myfyrwyr llwyddiannus yn cael eu dewis i gynrychioli’r DU yn y ‘Gemau Olympaidd Sgiliau’.

Dywedodd Edward Jones, Llysgennad Sgiliau Grŵp Colegau NPTC: “Da iawn i’n holl fyfyrwyr a gymerodd ran yn Rowndiau Terfynol WorldSkills UK yr wythnos diwethaf. Roedd yn gamp wych i gyrraedd y rowndiau terfynol a bod yn un o’r wyth i gymryd rhan yn eu maes sgil dewisol. Roedd y gystadleuaeth o safon uchel, ond roedd yr hyfforddiant a’r gefnogaeth ychwanegol a roddwyd gan staff y Coleg yn allweddol i helpu’r myfyrwyr i gyrraedd y rowndiau terfynol.”

Llongyfarchiadau a phob lwc i enillwyr y medalau a’r rhai gafodd ganmoliaeth uchel fel a ganlyn:

Jordan Lingham – Aur – Atgyweirio Cyrff Moduron

Jordan Lingham with his gold medal from world skills

Victoria Steel  – Aur – Ailorffennu Moduron

Victoria Steele with her gold medal from World Skills

Steven Cowley-Ford – Aur – Sgiliau Sylfaenol: Datrysiadau Meddalwedd TG ar gyfer Busnes

Steven Crawley-Ford with his gold medal from world skills

Thomas Brack – Canmoliaeth Uchel – Celfyddydau Coginio

Jackson Cole – Canmoliaeth Uchel – Technegydd Labordy

Logan Johnson – Efydd – Technegydd Labordy