Triawd wedi’i ddethol i fod yn rhan o Dîm Pêl-droed Colegau Cymru

Griff Davies, Samuel Ussher and Tarran Hollingshead ahead of joining up with the Wales Colleges football team

Mae Griff Davies, Samuel Ussher a Tarran Hollingshead sy’n fyfyrwyr Lefel 3 mewn Chwaraeon yng Ngholeg Y Drenewydd wedi’u dethol i gynrychioli Colegau Cymru yn erbyn Lloegr ar ddiwedd y mis. Mae’r triawd yn astudio cymhwyster Lefel 3 mewn Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol ochr yn ochr â’r rhaglen ysgoloriaeth pêl-droed  mewn partneriaeth â Chlwb Pêl-droed Y Drenewydd.

Cafodd y tîm ei ddethol o golegau ledled Cymru yn ystod dau brawf, ar ôl i’r myfyrwyr gael eu henwebu gan staff y colegau. Roedd 44 o fyfyrwyr yn yr ail brawf ac wedyn, cafodd 18 o chwaraewyr eu dethol i fod yn y tîm terfynol.

Bydd y gêm yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ar 29 Tachwedd, yn dechrau am 1pm.

Dywedodd Gareth Watkins, tiwtor mewn Chwaraeon yn Y Drenewydd: “Clod i’r bechgyn hyn, mae’r llwyddiant  hwn o ganlyniad i’r holl waith called eu bod nhw wedi rhoi i mewn i’w gyrfaoedd pêl-droed am nifer o flynyddoedd.  Maen nhw wedi dangos doniau pêl-droed elitaidd trwy gydol y tymor ac yn ystod y ddau brawf, roedden nhw wedi aros yn ddigyffro ac wedi dangos hyder i gyrraedd y tîm terfynol o 18 chwaraewr.  Dymunwn bob lwc iddyn nhw ac edrychwn ni ymlaen at eu gweld yn gwisgo’r jersi genedlaethol. Da Iawn a phob lwc.

Tarran Hollingshead ahead of joining up with the Wales Colleges football team Samuel Ussher ahead of joining up with the Wales Colleges football team