Bodycare by Drea yn Fusnes Newydd i Fyfyriwr Harddwch

Massage bed at Bodycare by Drea

Ar ôl astudio Therapi Harddwch Lefelau 2 a 3 yng Ngholeg y Drenewydd, mae Drea wedi sylweddoli ei hangerdd i redeg ei busnes gofal corff ei hun. Yn dilyn blynyddoedd heriol pandemig Covid a gyda phenderfyniad a chefnogaeth anhygoel gan ei thiwtoriaid, mae Drea wedi dod â’i breuddwyd yn fyw.

Agorodd Bodycare by Drea ei ddrysau ym mis Chwefror 2023, gyferbyn â 23 Social yn y Drenewydd gyda hwb ariannol gan Syniadau Mawr Cymru. Arweiniodd y darlithwyr Lisa Brandon a Charlotte Smith Drea drwy wersi ar-lein yn ystod COVID, gan roi hyder i Drea a gymerodd gyngor hefyd gan Newton Brown, y Swyddog Menter a Chyflogadwyedd.

Mae Drea yn cynnig therapi tylino lleddfol gyda thriniaeth wres sy’n targedu cyhyrau dolurus, poenus, ac yn lleddfu tensiwn yn y corff ar wely triniaeth gynnes. Mae triniaethau wyneb moethus, tylino therapiwtig, a thriniaethau ymlacio gyda gwres lleddfol a cherddoriaeth ysgafn yn cwblhau’r profiad, gan wneud Bodycare by Drea yn lle i unrhyw un sy’n ceisio gorffwys ac adfer.

Dywedodd Drea: “Rwyf mor ddiolchgar i Grŵp Colegau NPTC yn Y Drenewydd, Centerprise, a Syniadau Mawr Cymru am eu cefnogaeth ar y daith hon. Ar ôl dros 20 mis o dwf a llwyddiant, gobeithio y bydd pobl yn ymweld ac yn profi cysur a gofal Bodycare by Drea.”