Oes Newydd Ffasiwn: Academi Ffasiwn a Thecstilau Y Drenewydd yn Agor yn Adeilad Eiconig Pryce Jones

Noson Wych o Ffasiwn, Treftadaeth, ac Arloesi yn Y Drenewydd

Daeth adeilad hanesyddol Pryce Jones yn Y Drenewydd yn fyw gyda steil, creadigrwydd, a dathlu wrth i Academi Ffasiwn a Thecstilau’r Drenewydd lansio’n swyddogol, gan gyflwyno pennod newydd feiddgar i’r diwydiant ffasiwn lleol.

Noson i’w Chofio – Wedi’i chynnal gan y cyn Miss World Cymru Gabriella Jukes, roedd y noson yn gyfle gwych i arddangos etifeddiaeth tecstilau gyfoethog a dyfodol cyffrous y Drenewydd. Traddododd Gabriella, sydd bellach yn ddarlledwr gyda’r BBC, brif anerchiad ar ei thaith o fodelu i’r cyfryngau, gan ysbrydoli’r mynychwyr gyda’i phrofiadau yn y byd ffasiwn sy’n esblygu’n barhaus.

Cafodd gwesteion fwynhau:

  • Teyrnged i Laura Ashley, yn cynnwys arddangosfa o’i chynlluniau eiconig, gan gynnwys ffrog hanesyddol brin.
  • Gweithdai Dylunio ac Uwchgylchu Rhyngweithiol, gan sbarduno creadigrwydd ymhlith mynychwyr.
  • Perfformiadau Byw, gan gynnwys cerddoriaeth gan y myfyriwr perfformio Lefel 4 Tabby Kendall a dawns â choreograffi gan fyfyrwyr Celfyddydau Perfformio’r Coleg.
  • Bwyd a Diod, wedi’u cyrchu’n lleol, a’u cyflenwi a’u gweini gan fyfyrwyr arlwyo’r Coleg.
  • Areithiau Ysbrydoledig gan y Cynghorydd David Selby, sy’n hyrwyddo twf lleol, a Jenny Hollaway, Prif Weithredwr Fashion Enter, menter gymdeithasol sy’n grymuso arloesi ffasiwn.

Yr uchafbwynt? Sioe rhedfa yn tynnu sylw at ddyluniadau myfyrwyr, dan arweiniad y darlithydd Ffasiwn Gynaliadwy Carys Jones, sy’n profi bod y genhedlaeth nesaf o dalent ffasiwn yn barod i ddisgleirio.

Adeilad Pryce Jones, sef y Royal Welsh Warehouse yn wreiddiol, oedd ar un adeg yn arwain y gwaith o gynhyrchu dillad modern ar ddiwedd y 1800au. Mae’r gofod hwn sydd newydd ei drawsnewid bellach yn gartref i gyfleusterau o’r radd flaenaf, sy’n asio treftadaeth â dyluniad modern.

O ffasiwn gynaliadwy i gyrsiau technegol mewn gwnïo a dylunio patrymau, mae’r Academi yn fan cychwyn i ddylunwyr a’r rhai sy’n newid gyrfa fel ei gilydd, gan barhau ag etifeddiaeth yr adeilad fel conglfaen arloesi mewn tecstilau.

Mae wedi derbyn £526,603 o Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) Llywodraeth y DU. Gwnaed y dyfarniad gan Fwrdd Partneriaeth Lleol SPF Powys, o dan ei thema Pobl a Sgiliau, gyda’r nod o ddatblygu’r sector ffasiwn gynaliadwy a pharhau ag etifeddiaeth tecstilau’r Drenewydd.

Cefnogir y bwrdd partneriaeth gan Wasanaeth Economi a Hinsawdd Cyngor Sir Powys.

“Mae’r Academi hon yn rhoi bywyd newydd i ofod eiconig ac yn grymuso ein cymuned i ffynnu yn yr economi greadigol,” meddai’r Cynghorydd David Selby, Aelod Cabinet dros Bowys Fwy Ffyniannus.

Adleisiodd Mark Dacey Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC yr un peth:

Mae’n noson wych sy’n amlygu talent eithriadol ein myfyrwyr, sydd bob amser yn fy llenwi â balchder aruthrol. Rwyf yr un mor falch o ymroddiad, gwaith caled a chreadigrwydd ein staff yn y Coleg, y mae eu cefnogaeth yn gwneud y cyfan yn bosibl. Drwy gyfuno creadigrwydd ag arbenigedd technegol, mae’r Academi Ffasiwn newydd sbon hon ar fin meithrin arweinwyr ffasiwn yfory.”

 

Byddwch yn rhan ohono!

Mae Academi Ffasiwn a Thecstilau’r Drenewydd bellach yn derbyn ceisiadau ar gyfer cyrsiau sy’n amrywio o wnïo rhan-amser i raglen Ffasiwn Gynaliadwy Lefel 3 flaengar.

I gael rhagor o fanylion am gyrsiau ac ymrestru, ewch i wefan yr Academi heddiw!

Academi Ffasiwn a Thecstilau

Megis dechrau y mae stori steil Y Drenewydd—ymunwch â ni i lunio ei dyfodol