Wynebau Newydd, Safbwyntiau Ffres: Grŵp Colegau NPTC yn Croesawu Tri Aelod Bwrdd Deinamig

NPTC Group of Colleges Logo

Mae’n bleser gan Grŵp Colegau NPTC gyhoeddi penodiad tri Aelod newydd i’w Fwrdd Llywodraethwyr. Yn ymuno â’r Bwrdd mae Louise Dow, Martyn Williams, a James Harrison, gyda phob un ohonynt yn dod ag amrywiaeth drawiadol o arbenigedd a brwdfrydedd i helpu i lywio’r coleg tuag at ddyfodol disglair.

Cwrdd â’r Llywodraethwyr Newydd

Louise Dow
Yn arloeswr mewn daeareg ac yn hyrwyddwr addysg STEM yng Nghymru, Louise Dow yw Cyfarwyddwr Rhanbarthol Wardell Armstrong yng Nghaerdydd. Fel Daearegwr Siartredig a Llysgennad STEM gweithgar, mae hi wedi ymrwymo i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr ac arloeswyr. Y tu hwnt i’w hanrhydeddau proffesiynol, daw Louise â dawn unigryw fel hyfforddwr, dyfarnwr a beirniad rhyngwladol y grefft ymladd Tang Soo Do, sy’n dyst i’w brwdfrydedd a’i hyblygrwydd.

Martyn Williams BEng (Anrh), Dip IOD, MIET
Mae Martyn Williams yn arweinydd blaengar ym maes awtomeiddio diwydiannol a thechnoleg. Fel Rheolwr Gyfarwyddwr COPA-DATA UK a Chadeirydd Automeiddio Diwydiannol ar gyfer GAMBICA, mae Martyn yn arbenigo mewn creu gwerth trawsnewidiol trwy ddatrysiadau meddalwedd arloesol. Yn Llysgennad STEM angerddol, mae’n ymroddedig i rymuso meddyliau ifanc gyda chyfleoedd mewn technoleg a pheirianneg.

James Harrison BSc (Anrh) MRICS
Mae James Harrison yn cyfuno ei arbenigedd fel Syrfëwr Siartredig ag ymrwymiad dwfn i ddatblygiad economaidd lleol. Ar hyn o bryd gyda Triang Developments Ltd. yn y Canolbarth, mae James hefyd wedi cadeirio Fforwm Economaidd Canolbarth Cymru ac wedi cyd-sefydlu Calon Las Commercial Property. Gan ychwanegu agwedd bersonol, mae’n bartner gweithgar mewn menter ffermio defaid ffyniannus yn Aberriw, sy’n ymgorffori ysbryd arloesi a chymunedol y rhanbarth.

Ysgogi Rhagoriaeth Gyda’n Gilydd

“Rydym yn falch iawn o groesawu Louise, Martyn, a James i’r Bwrdd,” meddai Dr Rhobert Lewis, Cadeirydd y Llywodraethwyr. “Bydd eu profiad a’u hangerdd cyfunol yn gwella ein gallu i ddarparu addysg a chyfleoedd rhagorol i fyfyrwyr ar draws ein grŵp o golegau. Edrychwn ymlaen at yr egni a’r syniadau ffres a ddaw gyda nhw.”

Mae’r penodiadau newydd hyn yn tanlinellu ymrwymiad Grŵp Colegau NPTC i feithrin arweinyddiaeth ac arloesedd wrth iddo barhau i lywio dyfodol addysg yng Nghymru.