Darlithwyr Dawns Coleg Castell-nedd ar y Llwyfan!

The cast of Dance Show Once Upio a Time on stage dancing.

Mae Adran Ddawns Coleg Castell-nedd wedi meithrin enw nodedig dros y 25 mlynedd diwethaf fel un o’r colegau addysg bellach mwyaf blaenllaw ar gyfer cyrsiau Dawns Safon Uwch a Galwedigaethol yng Nghymru. Mae’r adran yn cynnal cysylltiadau cryfion â Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Ballet Cymru, Canolfan Celfyddydau Taliesin, a Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru.

Mae myfyrwyr dawns yn cael arlwy o gyrsiau blaenllaw yn y sector, gan adlewyrchu diwydiant sy’n pwysleisio ymrwymiad i ddilyniant gyrfa ac ymroddiad i ddysgu o ansawdd uchel. Mae’r amgylchedd hwn yn cynnig cyfleoedd i ddysgu arddulliau dawns newydd mewn lleoliad addysgol cefnogol a meithringar.

Dros yr ugain mlynedd diwethaf, mae myfyrwyr dawns wedi symud ymlaen yn gyson o’r coleg i gyrsiau uchel eu parch mewn sefydliadau addysg uwch a ganmolwyd yn fawr gan feirniaid, gan gyflawni’r canlyniadau gorau yn gyffredinol, gan gynnwys graddau A* a Rhagoriaeth* lluosog. Mae’r prifysgolion a’r conservatoires dawns hyn yn cynnwys London Studio Centre, Dance Addict, Shockout, London School of Contemporary Dance, Trinity Laban, Northern School of Contemporary Dance, The Urdang Academy, Laine Theatre Arts, Arts Educational Schools London, a llawer mwy.

The cast of Dance show Once Upon a Time on stage at the end of the show.

Neath College Dance lecturers and the dance students in the sell-out production of ‘Once Upon a Time’

Ond pwy yw’r tîm o ddarlithwyr y tu ôl i’r holl lwyddiant hwn? Mae’r Arweinydd Pwnc ar gyfer Dawns Safon Uwch a Chydlynydd Cwrs Dawns Lefel 3, Craig Coombs, a hyfforddodd yn Trinity Laban ac sydd wedi rhannu llwyfan gyda Kylie Minogue, The Black-Eyed Peas, a The Marinsky Ballet, wedi arwain y rhaglen ddawns dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae ei weledigaeth yn parhau i wneud y coleg hwn yn ganolfan ragoriaeth wirioneddol ar gyfer dawns. Mewn cyfweliad, dywedodd:

“Mae ymrwymo 20 mlynedd diwethaf fy mywyd a fy ngyrfa i ddawns wedi bod yn hynod werth chweil. Rwyf wedi tanio syniadau blaengar sydd wedi cyfrannu at ddatblygiad dawnswyr ifainc dros y cenedlaethau, ac wedi gweld cynifer o storïau llwyddiant ar hyd y ffordd. Yn y coleg, rydym yn cynnig lle i ddawnswyr dyfu, archwilio, datblygu a breuddwydio. Yr hyn sy’n bwysig yw bod fy ngweledigaeth wedi’i rhannu gan y tîm ymroddedig o ddarlithwyr dawns sydd wedi ymrwymo eu hunain i wneud profiad dawns y myfyrwyr y gorau y gall fod, ac ni allwn fod yn fwy ffodus i fod yn gweithio gydag artistiaid dawns addysgol mor dalentog!”

A male and female cast member of Dance show Once Upon a Time performing a dance.

Craig Coombs in the role of ‘The Fairytale Author’, performing with Level 3 Dance student, Tanisha Hanley, performing in the lead role ‘Story’

Y tymor diwethaf, aeth y darlithwyr dawns ar y llwyfan ochr yn ochr â myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr a ddychwelodd ar gyfer sioe 10fed pen-blwydd gan Fairytale Dance Productions, gwaith dawns gwreiddiol o’r enw “Once Upon a Time.” Bu i’r sioe hon â’i wythnos o berfformiadau y gwnaethant oll werthu allan, gyffwrdd â chalonnau cynulleidfaoedd wrth iddynt wylio myfyrwyr-ddawnswyr a’u darlithwyr yn perfformio mewn golygfa ddawns hudolus. Cynhyrchodd noson dwymgalon o ddawns, lle’r oedd safon uchel y gwaith heb ei ail, gan roi theatr ddawns ieuenctid yng Nghanolfan Celfyddydau Nidum ar flaen y gad.

Mae Elise Addiscott, sy’n hanu o Resolfen, wedi addysgu dawns yn y Coleg dros y 10 mlynedd diwethaf. A hithau’n cydlynu un o’r rhaglenni cwrs Celfyddydau Perfformio mwyaf blaenllaw, mae Addiscott yn cynnig hyfforddiant arbenigol mewn dawns a theatr gerdd i fyfyrwyr sy’n gobeithio hyfforddi fel dawnswyr proffesiynol un diwrnod. Hyfforddodd Addiscott, sydd wedi coreograffu cynyrchiadau sioe gerdd o ‘Chicago’, ‘We Will Rock You’, ‘Little Shop of Horrors’, a ‘The Wizard of Oz’, yn broffesiynol yng Nghanolfan Stiwdio Llundain, ochr yn ochr â’r goreuon o’r diwydiant perfformio proffesiynol. Erbyn hyn mae’n ei chael ei hun mewn rôl lle gall ysbrydoli ei myfyrwyr presennol i ddilyn olion ei thraed. Yn gyn-wyneb Pineapple Dance Studios, dywedodd Addiscott:

“Roedd rhannu’r llwyfan gyda fy myfyrwyr yn gyfle i’w hatgoffa yr oeddwn innau yn eu hesgidiau nhw ar un adeg, ac fy mod i’n gwybod yn union sut maen nhw’n teimlo wrth ddysgu camau newydd yn y stiwdio ddawns. Mae gen i berthynas broffesiynol mor gadarnhaol a llawn parch gyda fy myfyrwyr dawns, a dyna sut rwyf wedi ymrwymo fy nhalentau i’w dyfodol am gyhyd. Rwy’n gobeithio rhannu’r hyn rwy’n ei wybod mewn ffordd gefnogol, fel y gallant ddysgu o fy mhrofiadau a bod y dawnswyr gorau y gallant fod.”

A female cast member Dance show Once Upon a Time performing ballet.

Elise Addiscott inspiring her students, performing in the role of ‘The Wishing Star’

Yn dilyn llwyddiant gwaith cydweithredol Coombs ac Addiscott ar draws Cwmni Dawns Ieuenctid LIFT ac One Vision Youth Dance, mae’r darlithwyr profiadol a dawnus hyn bellach yn paratoi i lansio’r bennod nesaf yn stori’r adran ddawns drwy gyflwyno menter newydd sbon: Dawns Ieuenctid Coleg Castell-nedd (NDYD), gan gynnig llwyfan arall i ddawnswyr ifainc ddisgleirio. Mae’r tîm uchelgeisiol hwn o ddarlithwyr, sydd hefyd yn cynnwys Daniella Powell, Cydlynydd Cwrs Dawns TGAU y coleg a’r Darlithydd Dawns Callum Coombs, yn gweithio tuag at gynhyrchiad cyntaf y cwmni newydd, gan archwilio ‘eiconau’ fel man cychwyn ar gyfer symud.

Mae Daniella Powell, o Gastell-nedd, wedi gweithio yn y Coleg ers 2022 ar ôl cwblhau ei Gradd Dawns ym Mhrifysgol De Cymru. Meddai:

“Mae ymuno â thîm o ddarlithwyr dawns ymroddedig mewn coleg sy’n cefnogi ac yn parchu pwysigrwydd dawns wedi bod yn anhygoel. Rwyf wedi cael fy nghroesawu i amgylchedd dysgu cefnogol, a nawr rwy’n edrych ymlaen at fy nyfodol fel darlithydd dawns ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Wrth edrych ymlaen at y misoedd nesaf, mae gan y darlithwyr dawns a’u myfyrwyr lawer i gyffroi yn ei gylch. Mae tirwedd ddawns Coleg Castell-nedd yn cynnig cymaint mwy nag addysg yn unig; mae’n cynnig cyfle i fyfyrwyr ennill cymwysterau cydnabyddedig tra’n meithrin cysylltiadau cryfion a chyfeillgarwch sy’n para am oes. A oes unrhyw syndod bod y myfyrwyr hyn mor llwyddiannus, gyda thîm cwrs mor ddeinamig a phroffesiynol wrth galon eu profiad dysgu?

The cast of Dance Show Once Upio a Time on stage dancing.

Dance lecturers joined by alumni and students, performing in ‘Once Upon a Time’

Yn ddiweddar cwblhaodd Saydi Jones, sydd wedi cydlynu’r cwrs Lefel 2 Celfyddydau Perfformio ers 2014 ac sydd hefyd yn arbenigo mewn dawns, ei gradd meistr. Dywedodd hi:

“Mae’r Coleg yn darparu cyfleoedd i bob un ohonom, myfyrwyr a darlithwyr fel ein gilydd. Gallwn i gyd ymddiried ein bod ni mewn amgylchedd lle mae dawns yn cael ei chymryd o ddifrif a gyda phrosiectau newydd fel ‘Dawns Ieuenctid Coleg Castell-nedd’ a ‘Beneath the Surface’ yn parhau i arloesi, mae dawns yn y coleg hwn yma i aros!”

Wrth i’r tîm dawns edrych ymlaen at berfformio unwaith eto gyda’r myfyrwyr dawns yn Niwrnodau Dawns Abertawe ym mis Mai eleni, maent yn rhagweld y dyfodol, yn sefyll gyda’i gilydd, yn gryfach nag erioed!

Esboniodd cynrychiolydd dawns y myfyrwyr, Jasmine Salter, pam y dewisodd astudio dawns yng Ngholeg Castell-nedd:

“Mae’r darlithwyr dawns yn un o’r rhesymau dwi’n codi yn y bore. Maen nhw’n gweithio’n galed i’m cefnogi, a gwn fod fy nyfodol mewn dwylo diogel os byddaf yn parhau i ymddiried yn eu harweiniad. Fyddwn i ddim yn dawnsio yn unman arall!”

I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau dawns sydd ar gael yng Ngholeg Castell-nedd, cysylltwch â craig.coombs@nptcgroup.ac.uk neu ewch i’n gwefan.