
Roedd yn fraint gan Grŵp Colegau NPTC fynd i lansiad ystafell ddosbarth awyr agored newydd Ysgol Y Bannau, a elwir yn ‘ardal wyllt’ (wild area!) gan y myfyrwyr. Daw hyn yn sgil rhodd o dir gan y Coleg ynghyd ag arian a roddwyd ar gyfer adeilad newydd.
Mae Ysgol Y Bannau yn ysgol gynradd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae dalgylch eang gan yr ysgol, o Aberhonddu i ffiniau Lloegr, gan groesawu myfyrwyr rhwng 5 a 11 oed lle y mae’r iaith Gymraeg yn chwarae rhan amlwg mewn addysg a bywyd bob dydd yn yr ysgol.
Mae’r tir a ddefnyddiwyd ar gyfer yr ystafell ddosbarth yn ddigon mawr ar gyfer 20 myfyriwr. Mae’r caban a adeiladwyd gan saer talentog lleol, wedi’i greu o dderwen leol, gyda waliau cefn o fwrdd a waliau blaen o ganfas fel y mae modd eu rholio i fyny yn ystod yr haf.
Mae gan y myfyrwyr fynediad i fan awyr agored ffantastig lle y maent yn cael profiad dysgu cyfoeth ac unigryw. Maent yn defnyddio’r lleoliad yn rheolaidd i adrodd straeon, bwydo adar, casglu dail a dysgu sgiliau newydd yn cynnwys creu tân, adeiladu ffensys wrth ddefnyddio brigau a ffyn ac adeiladu cuddfannau.
Fel rhan o’r lansiad, roedd adloniant gan y myfyrwyr yn cynnwys cerddoriaeth, caneuon Cymraeg ac adrodd cerddi o Gymru.
Tim Morgan, sef Is-gadeirydd Llywodraethwyr, oedd prif arweinydd yr ymgyrch i adeiladu’r caban awyr agored ar gyfer y plant. Trefnodd gyda rhieni eraill i blannu coed a blodau yn yr ardal a chysylltodd ag un o’r rhieni i gynllunio ac adeiladu’r adeiledd.
Dywedodd Natalie Downton, Cynorthwyydd Marchnata yng Ngholeg Bannau Brycheiniog: “Roedd hyn yn ddigwyddiad gwych ac roedd yn ffantastig gweld y gymuned yn dod at ei gilydd i ddathlu’r gwaith caled a gyflawnwyd er mwyn cael yr ystafell ddosbarth awyr agored yn barod ar gyfer y plant. Edrychwn ymlaen at dyfu’r bartneriaeth yn y dyfodol.”