Cyflawnwyd carreg filltir anhygoel gan bedwar myfyriwr rhagorol sy’n astudio Peirianneg yng Ngrŵp Colegau NPTC wrth ennill Aur yn y gystadleuaeth Sgiliau Cymru Sero Net. Llwyddodd Thomas Morgan, Finley Jones, Daisy Cullen, a Timothy Stephenson, a elwir “Camau Cynaliadwy,” i ennill y wobr uchaf yn y digwyddiad Cystadlaethau Sgiliau Cymru a gynhaliwyd yn Arena Abertawe ar ôl cyfres o gystadlaethau a gynhaliwyd ar draws Colegau yng Nghymru yn gynharach yn y flwyddyn.
Mae eu cflawniad blaengar yn tanlinellu eu doniau a’u hymrwymiad i arloesedd ynni gwyrdd ond hefyd yn adlewyrchu grym cydweithredu a gwytnwch wrth anelu at ddatrysiadau cynaliadwy trwy’r Prosiect ‘Cyrchfan Ynni Adnewddyadawy’. Wrth wraidd y prosiect hwn yw rhaglen Sgiliau a Doniau Bargen Ddinesig Bae Abertawe, a ariennir ar y cyd gan lywodraeth Cymru a llywodraeth y DU, ochr yn ochr â buddsoddiad gan y sector preifat ac wedi’i fabwysiadu gan Grŵp Colegau NPTC yn 2024. Trwy greu’r tîm Camau Cynaliadwy, mae’r myfyrwyr hyn wedi dangos sut mae brwdfrydedd, gwaith caled ac arweiniad gan fentoriaid profiadol yn gallu gyrru rhagoriaeth wrth ddelio â heriau allweddol parthed ynni adnewyddadwy a chyflawni amcanion Sero Net.
Dywedodd Daisy aelod o’r’ tîm buddugoliaethus: “Doeddwn i ddim yn sicr o gwbl am gystadlu ar y dechrau – dwi wastad wedi bod yn frwd am ynni gwyrdd ond dwi wedi cael trafferth gyda gorbryder yn y gorffennol, felly roedd cynnig fy hun yn teimlo’n frawychus. Ond roeddwn i’n gwybod y byddai’n wych ar gyfer fy hyder, fy CV a fy mhrofiad drwyddi draw, felly penderfynais i fynd ati.
“Roedd ennill Aur gyda fy nhîm yn golygu lot i fi. Y tro diwethaf i fi ennill medal oedd am karate yn yr ysgol gynradd a dwi bob amser wedi bod yn genfigennus o’r chwaraewyr rygbi a phêl-droed gyda’u tlysau. I ennill rhywbeth fel hyn, mewn rhywbeth sydd o bwys i mi, mae wir yn ffantastig. Dwi mor falch o beth yr ydyn ni wedi ei gyflawni gyda’n gilydd,
Dywedodd Cheryl Cairns sef Mentor Cystadlaethau Sgiliau Cymru a Darlithydd Peirianneg “Mae mentora’r tîm Camau Cynaliadwy wedi bod yn daith ffantastig, gan weld eu cydweithrediad i weithredu syniadau blaengar a gweld eu cyflwyniad yn dod i’r amlwg. Mae eu cyflawniad yn hynod o ragorol.”
“Am adeg ffantastig o falchder ar gyfer fy nghydweithiwr a chyd-fentor Jordan Briskham a’r holl adran Beirianneg yng Ngrŵp Colegau NPTC. I ennill rhywbeth fel hyn, mewn pwnc sydd o bwys i ni, yn ffantastig, wir nawr. Dwi mor falch o beth yr ydyn ni wedi cyflawni gyda’n gilydd, ac roedd ennill Aur yn coroni’r cyfan. Da iawn Camau Cynaliadwy!”
Roedd y tiwtoriaid wedi gwylio gyda balchder sut oedd y tîm Camau Cynaliadwy yn gweithio’n ddi-ffael dros fwy na 3 mis i fodloni amcanion heriol y gystadleuaeth.
Trwy ymdrin â brîff cymhleth ar gyfer cystadleuwyr yn gweithio hyd at Lefel 6 (lefel gradd), roedd gofyn i’r myfyrwyr ddatblygu strategaeth gynhwysfawr i leihau’r ôl-troed carbon a chyrraedd Sero Net yn eu cymuned leol. Roeddent yn llwyddiannus wrth ddatblygu mentrau wedi’u hamserlennu a thechnolegau blaengar, gyda dadansoddiad costio manwl, i gyflawni Sero Net erbyn 2050. Dangosodd y myfyrwyr waith tîm rhagorol gan arddangos sgiliau cyflogadwyedd o werth mawr yn y byd busnes cyfoes.
Darparwyd eu cyflwyniad ganddynt gyda hyder gan greu argraff ar y beirniaid o ganlyniad i ehangder eu gwybodaeth, syniadau blaengar a darpariaeth gain. Disgrifiodd un o’r beirniaid eu perfformiad a’u cyflwyniad fel rhagorol!
Esboniodd Cheryl sut mae’r gystadleuaeth yn cyd-fynd â’r prosiect ‘Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy’: “Rydyn ni’n credu bod ein myfyrwyr wedi gweld budd mawr o astudio’r uned newydd, ‘Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy.’ Mae’r cwrs hwn wedi rhoi’r cyfle iddynt gwrdd â ‘n partneriaid Diwydiant Ynni Adnewyddadwy a dysgu ganddynt: Phil Williams, Bute Energy, EDF Renewables UK & Ireland, Trydan Gwyrdd Cymru, RWE, Prifysgol Abertawe, Vattenfall, a WSP. Mae’r cydweithrediad hwn wedi bod yn werth chweil dros ben wrth ysbrydoli a rhoi mewnwelediad i gyflawni Sero Net.”
Mae ‘Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy’ yn Gymhwyster Prosiect Estynedig sy’n para am ddwy flynedd ac sy’n anelu at ysbrydoli ac addysgu gweithlu ynni gwyrdd y dyfodol. Mae’r Cymhwyster Prosiect Estynedig (EPQ) yn gymhwyster Lefel 3 (lefel Safon Uwch) a gynigir gan AQA, Edexcel, OCR, a CBAC. Wedi’i graddio fel Lefel UG, gall ddarparu pwyntiau ychwanegol UCAS. Mae’n darparu cyfleoedd i ddysgwyr wella eu gwybodaeth, gweithio’n annibynnol a datblygu sgiliau newydd trwy amrywiaeth o weithgareddau sy’n cynnwys siaradwyr gwadd, ymweliadau i’r gweithle a phrofiadau ymarferol.
Agwedd allweddol ar y rhaglen, a gafodd ei lansio yn 2022, yw’r cydweithredu rhwng diwydiant a’r byd academaidd i bontio’r bwlch rhwng sgiliau a’r gyrfaoedd amrywiol sydd ar gael. Darparir sesiynau i ysbrydoli a thynnu sylw at gyfleoedd a chynnig mewnwelediad arbenigol i’r sgiliau angenrheidiol o fewn i’r diwydiant ynni adnewyddadwy.
Mae myfyrwyr cofrestredig yn cael cipolwg ar dechnolegau (ynni gwynt ar y tir ac ar y môr, ynni heulol, ynni tonnau ac ynni’r llanw), cylch oes datblygu prosiect, a chlywed yn uniongyrchol gan weithwyr proffesiynol am y llwybrau gyrfaoedd cyffrous a thwf o fewn i’r diwydiant.
Dywedodd Mark Hazelton, Cyfarwyddwr Prosiect yn EDF Renewables UK,: ‘Mae Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy’ yn anelu at ymchwilio i ddewisiadau gyrfaoedd y dyfodol yn y sector ynni adnewyddadwy sy’n angenrheidiol i adeiladu system ynni sero net y dyfodol. Mae gweithio gyda’r prif bartneriaid i ehangu’r cwrs i gwmpasu dysgwyr ychwanegol yn gyffrous iawn ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’r partneriaid addysg newydd i rymuso arweinwyr yfory.”
Rhaglen Sgiliau a Doniau Bargen Ddinesig Bae Abertawe sydd wrth wraidd y rhaglen hon ac fe’i hariannir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Y DU ar y cyd.
Sefydlwyd ‘Cyrchfan Ynni Adnewyddadwy’ i ddarparu cipolwg ar dechnolegau adnewyddadwy yn cynnwys ynni tonnau, ynni’r llanw, ynni gwynt ar y tir, ynni heulol, ynni gwynt ar y môr, arddangos cylch oes datblygu prosiect adnewyddadwy a thanlinellu llwybrau gyrfa gwahanol o fewn i’r diwydiant. Mae gan fyfyrwyr gyfleoedd i gysylltu â chyflogwyr y dyfodol i’w ymbaratoi ar gyfer profiad gwaith, cyfleoedd prentisiaeth a swyddi yn y farchnad ynni adnewyddadwy sef marchnad sy’n tyfu’n gyson.