Cymeradwyaeth Uchel ar gyfer Myfyrwyr Coleg Bannau Brycheiniog

Students at Skills Competitions Wales Celebration event in front of advertising board with the certificates.

Mae Faith McKeever a Tom Wilding sef myfyrwyr Blwyddyn Gyntaf mewn Busnes Lefel 3 o Goleg Bannau Brycheiniog wedi cael cymeradwyaeth uchel yn y Gystadleuaeth Sgiliau Cymru: Her Menter yng Nghasnewydd.

Crëwyd y syniad o Tabby Tearooms ganddynt, sef caffi cathod a fyddai’n cael ei leoli yn Aberhonddu. Fay a feddyliodd am y syniad am ei bod hi wastad wedi eisiau sefydlu busnes fel caffi cathod ond credodd na fyddai modd iddi allu byth ei gyflawni. Meddyliodd Tom am yr enw a dyluniodd y logo ar Canva, gan ei wneud yn ymdrech tîm go iawn.

Ar ddiwrnod yr her, bu rhaid i’r myfyrwyr osod ei stondin fasnach ei hun gan ddefnyddio’r eitemau yr oeddynt wedi eu creu, yn cynnwys posteri a chwpanau coffi gyda’u logo arnynt. Roedd y stondinau masnach yn rhoi cyfle i’r holl gystadleuwyr fynd o gwmpas a rhyngweithio gyda’i gilydd, wrth eu galluogi i gwrdd â phobl newydd a gweld pa syniadau oedd gan y cystadleuwyr eraill.

Roedd y gystadleuaeth hefyd yn cynnwys cyflwyniad a wnaethpwyd gan y myfyrwyr i roi gwybod i’r beirniaid am holl gynlluniau eu darpar fusnes, ac hynny’n rhoi cyfle i’r myfyrwyr gyflwyno o flaen pobl, gan adeiladu eu hyder a rhoi blas iddynt ar redeg busnes.

Dyma’r ail dro i diwtor Lefel 3 mewn Busnes Michelle Dorise-Turral roi eu myfyrwyr yn y gystadleuaeth ac roedd hi wrth ei bodd gyda’r canlyniadau “Roedd yn ymarfer gwych iddyn nhw a bydd cymeradwyaeth uchel ynedrych yn wych ar eu CV’s,” dywedodd.

Dywedodd Tom: “Roedd y gystadleuaeth yn ddiwrnod da ac yn llawn hwyl. Roedd yn fy helpu i adeiladu fy hyder wrth gyflwyno” ac yn ôl Faith roedd yn “gipolwg da ar ddechrau busnes.”