Llwyddiant i fyfyrwyr Coleg y Drenewydd yng Ngwobrau mawreddog Cystadlaethau Sgiliau Cymru

Big screen and presenter on stage at Skills Competition Wales Celebration Event at Swansea Arena.

Mwynhaodd Grŵp Colegau NPTC noson lwyddiannus gyda chydnabyddiaeth i fyfyrwyr mewn ystod o bynciau yng Ngwobrau Cystadlaethau Sgiliau Cymru. Enillodd y grŵp gyfanswm o 16 o fedalau, gyda myfyrwyr o Goleg y Drenewydd ymhlith y rhai a enillodd fedalau Efydd, Arian ac Aur a thystysgrifau Canmoliaeth Uchel.

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn Arena Abertawe, lle gwelwyd dros 1,000 o gyfranogwyr o bob rhan o’r wlad yn cystadlu mewn 20 sector yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru 2025, a drefnwyd gan y prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru.

Dangosodd myfyrwyr arlwyo Coleg y Drenewydd eu rhagoriaeth drwy ennill medalau lluosog. Enillodd Eleri Davies aur, a chipiodd Poppy Bowen-Heath arian yn Patisserie & Melysion. Derbyniodd Serah Morgan-Page ac Ella Owen ganmoliaeth uchel mewn Gwasanaeth Bwyty, a dyfarnwyd Tystysgrif Rosi Gallo mewn Celfyddydau Coginio i Morgan Carter.

Eleri Davies

Enillodd Faith Kirkham, myfyrwraig Iechyd a Gofal Cymdeithasol Coleg y Drenewydd, fedal aur, a derbyniodd Rosie Routledge, myfyrwraig gofal plant, fedal efydd a gwobr arbennig am Y Gorau yn y Rhanbarth. Yn ogystal, cydnabuwyd Halle Moore a Sioned Harris gyda gwobrau  canmoliaeth uchel. Mae’r gwobrau hyn yn amlygu dawn ac ymroddiad eithriadol myfyrwyr yr adran.

Faith Kirkham

Rosie Routledge gyda’i darlithydd Claire Bumford

Roedd myfyrwyr eraill a gafodd ganmoliaeth uchel yn cynnwys; Evie Hill, trin gwallt,

Zara Fisher, gwasanaethau bwyty sgiliau cynhwysol, Mairi Williams, gofal plant sgiliau cynhwysol a Conner Davies, sgiliau cynhwysol, sgiliau bywyd.

Mynegodd Prif Weithredwr Grŵp Colegau NPTC, Mark Dacey, ei falchder yng nghyflawniadau’r myfyrwyr, gan ei alw’n gyflawniad anhygoel.

Dywedodd Edward Jones, Hyrwyddwr Sgiliau Grŵp Colegau NPTC: “Hoffwn longyfarch ein holl fyfyrwyr a gymerodd ran yn y gystadleuaeth. Mae’r medalau niferus a enillwyd gan ein myfyrwyr yn amlygu eu hymroddiad i’w crefftau ac ansawdd eithriadol yr addysgu a’r hyfforddi yn y Coleg. Mae ein llwyddiant cyson mewn cystadlaethau ar draws disgyblaethau amrywiol yn dangos y safonau uchel o hyfforddiant a ddarperir yn ein holl safleoedd y coleg, gan arddangos ystod amrywiol o sgiliau ymhlith ein myfyrwyr.”

Yn y seremoni yn Arena Abertawe, helpodd Gweinidog Sgiliau Llywodraeth Cymru, Jack Sargeant, i ddosbarthu gwobrau i’r goreuon ym mhob rhanbarth. Dywedodd: “Mae hyfforddiant galwedigaethol yn agos at fy nghalon ac mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn cynnig cyfle gwych i bobl ifanc brofi eu hunain a datblygu eu sgiliau.

“Mae ein llywodraeth yn blaenoriaethu cefnogi ieuenctid tuag at ddyfodol addawol ac mae cystadlaethau fel hyn yn eu hannog i wthio ffiniau yn adeiladol.

“Wrth gwrdd ag enillwyr medalau WorldSkills 2024, rydw i wedi gweld sut mae’r cystadlaethau hyn yn datblygu gyrfaoedd – rwy’n hyderus y bydd y dalent newydd hon yr un mor llwyddiannus. Llongyfarchiadau i’r holl gystadleuwyr a phob lwc i’r rhai sy’n cynrychioli Cymru yn genedlaethol a thu hwnt.

“Bydd yn anrhydedd i Gymru groesawu WorldSkills UK fis Tachwedd yma. Edrychaf ymlaen at weld y dalent eithriadol yn cael ei harddangos.”