
Mae myfyriwr arlwyo yng Ngholeg Y Drenewydd Gabrielle Wilson o Rayader yn cychwyn ar daith oes, mewn cynnig glew i anrhydeddu’r DU ar y llwyfan rhyngwladol yn y Gystadleuaeth WorldSkills nesaf. Cynhelir y ‘Skills Olympics’ yn Shanghai o fis Medi 22-27 2026.
Yn sgil llwyddiant Gabrielle yn ei gystadlaethau sgiliau cenedlaethol, cyhoeddodd WorldSkills UK, mewn partneriaeth â Pearson, (FTSE: PSON.L), cwmni dysgu gydol oes y byd fod Gabrielle yn mynd i ymuno â’i rhaglen hyfforddi carlam sy’n para am 18 mis. Bydd Gabrielle yn anelu at gael ei dewis i fod yn rhan o’r tîm a fydd yn cynrychioli’r DU yn WorldSkills Shanghai.
Dyma’r tro cyntaf i Tsieina groesawu’r gystadleuaeth WorldSkills o fri. Bydd y digwyddiad yn gweld 1500 o bobl ifanc yn teithio i Shanghai o dros 80 gwlad i gystadlu mewn disgyblaethau sgiliau technegol o beirianneg, gweithgynhyrchu a thechnoleg i feysydd creadigol, digidol a lletygarwch o flaen cynulleidfa o 250,000.
Mae arbenigwyr byd-eang yn ystyried y gystadleuaeth WorldSkills fel y prawf eithaf o allu cenedl i fodloni anghenion sgiliau’r dyfodol. Mae cynrychiolwyr llywodraethau, addysgwyr a chyflogwyr arweiniol o bedwar ban y byd yn bresennol yn y digwyddiad.
Mae WorldSkills UK yn defnyddio ei gyfranogiad yn y gystadleuaeth WorldSkills rhyngwladol i hyrwyddo rhagoriaeth sgiliau ar draws y DU a thrwy weithio gydag addysg, diwydiant a llywodraethau’r DU, mae’n ymwreiddio safonau hyfforddiant o safon fyd-eang trwy’r sector sgiliau drwyddi draw. Mae hyn yn helpu i fodloni’r galw am weithlu medrus iawn mewn sectorau allweddol yn cynnwys peirianneg, digidol, gweithgynhyrchu ac adeiladwaith.
Bydd y DU yn cystadlu yn fwy na 30 o sgiliau yn WorldSkills Shanghai 2026, yn cynnwys Celf Gemau Digidol 3D, Integreiddio Systemau Robotau ac Ynni Adnewyddadwy.
Dywedodd Ben Blackledge, Prif Weithredwr, WorldSkills UK: “Llongyfarchiadau i Gabrielle wrth gael ei dewis ar gyfer ein rhaglen hyfforddi ar gyfer WorldSkills Shanghai 2026. Gydag aelodau eraill ein rhaglen, bydd Gabrielle yn datblygu’r sgiliau cywir i hyrwyddo twf busnesau ar draws ein heconomi. Mae’r ffaith bod Shanghai yn croesawu WorldSkills y flwyddyn nesaf yn darparu llwyfan ffantastig i ni gydweithio’n agos â Tsieina, rhywle lle yr ydym yn ymwybodol bod rhagoriaeth sgiliau yn flaenoriaeth i gydweithredu, arloesi a dysgu gan y gorau yn y byd.”
Dywedodd Freya Thomas Monk, Rheolwr Gyfarwyddwr Cymwysterau Pearson: “Mae Pearson yn falch i noddi’r Tîm DU! Mae hybu proffil a bri addysg dechnegol a galwedigaethol o bwys mawr i ni a dymunwn bob lwc i’r grŵp talentog hwn o 86 o bobl ifanc ar draws y wlad wrth iddynt gychwyn ar y rhaglen hyfforddi i anelu at gystadlu yn Shanghai.”
Pearson yw partner swyddogol y Tîm DU ar gyfer WorldSkills Shanghai, ar ôl partneriaeth lwyddiannus yn WorldSkills Lyon yn 2024.
Dywedodd Edward Jones, Llysgennad Sgiliau yng Ngrŵp Colegau NPTC: “Mae ymrwymiad ac ymroddiad Gabrielle tuag at ei hyfforddiant ers iddi dderbyn cymeradwyaeth uchel yn WorldSkills UK 2023 ym Manceinion wedi bod yn rhagorol. Mae’r darlithydd arlwyo Shaun Bailey o Goleg Y Drenewydd wedi bod yn gweithio’n ddi-ffael i gefnogi Gabrielle ar ei thaith ac mae cael ei dethol ar gyfer WorldSkills Shanghai 2026 yn gyflawniad ffantastig. Dymunwn bob lwc i Gabrielle yn Tsieina – mae hi’n enillydd yn barod am gyrraedd y cam hwn. Pob lwc, Gabrielle!”