Mae myfyrwyr ar draws Grŵp Colegau NPTC yn dathlu helfa anhygoel o fedalau yn y digwyddiad dathlu Cystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni. Enillodd cyfanswm o 16 o fyfyrwyr fedalau yn dilyn cyfres o gystadlaethau lleol a gynhaliwyd ym mis Ionawr a Chwefror mewn colegau ar draws Cymru. Enillodd myfyrwyr fedalau mewn ystod o feysydd, yn cynnwys Patisserie a Melysion, Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Sgiliau Sero Net.
Roedd y seremoni, a gynhaliwyd yn Arena Abertawe ar 13 Mawrth, yn ganlyniad ymrwymiad a rhagoriaeth a oedd yn dod â chyfranogwyr at ei gilydd o amrywiaeth o ddiwydiannau i gael eu cydnabod am eu sgiliau galwedigaethol a’u cyflawniadau rhagorol.
Roedd y seremoni yn ddigwyddiad mawr gyda gweithwyr proffesiynol medrus, arweinwyr diwydiant, addysgwyr a chefnogwyr yn bresennol ac roedd hefyd yn cael ei ddarlledu’n fyw ar-lein. Tynnodd y digwyddiad sylw at ymrwymiad a gwaith caled y cyfranogwyr a oedd yn cystadlu mewn categorïau amrywiol, o Beirianneg a Thechnoleg i Letygarwch a’r Celfyddydau Creadigol.
Cynhaliwyd cystadlaethau trwy gydol mis Ionawr a Chwefror, gydag arbenigwyr yn gwerthuso cyfranogwyr yn seiliedig ar safonau a meini prawf diwydiant. Mae’r cystadlaethau hyn yn adnabod rhagoriaeth ond hefyd yn darparu platfform i gyfranogwyr er mwyn iddynt feincnodi eu sgiliau yn erbyn disgwyliadau’r diwydiant a chysylltu â darpar gyflogwyr.
Mae’r gystadleuaeth Sgiliau Cymru – dan reolaeth y prosiect Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru a ariennir gan Lywodraeth – wedi’i dylunio i godi proffil sgiliau yng Nghymru ac mae’r gystadleuaeth yn helpu i hybu sgiliau gweithlu’r dyfodol. Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru wedi’i alinio gyda WorldSkills, gyda llawer o gystadleuwyr yn symud ymlaen i gystadlaethau WorldSkills y DU.
Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn sbring fwrdd ar gyfer cyfranogwyr i gystadlu mewn digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol fel WorldSkills y DU a Worldskills Rhyngwladol ac EuroSkills. Mae’n paratoi’r ffordd ar gyfer Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills y DU, a gynhelir yng Nghymru am y tro cyntaf yn ddiweddarach eleni.
Roedd Daisy Cullen, o Aberdulais, yn rhan o’r tîm a enillodd Aur yn y Sgiliau Sero Net. Dywedodd:
“Doeddwn i ddim yn sicr o gwbl am gystadlu ar y dechrau – dwi wastad wedi bod yn frwd am ynni gwyrdd ond dwi wedi cael trafferth gyda gorbryder yn y gorffennol, felly roedd cynnig fy hun yn teimlo’n frawychus. Ond roeddwn i’n gwybod y byddai’n wych ar gyfer fy hyder, fy CV a fy mhrofiad drwyddi draw, felly penderfynais i fynd ati.
“Roedd ennill Aur gyda fy nhîm yn golygu lot i fi. Y tro diwethaf i fi ennill medal oedd am karate yn yr ysgol gynradd a dwi bob amser wedi bod yn genfigennus o’r chwaraewyr rygbi a phêl-droed gyda’u tlysau. I ennill rhywbeth fel hyn, mewn rhywbeth sydd o bwys i mi, mae wir yn ffantastig. Dwi mor falch o beth yr ydyn ni wedi ei gyflawni gyda’n gilydd.”
Yn y seremoni yn Arena Abertawe, helpodd Gweinidog Sgiliau Llywodraeth Cymru, Jack Sargeant, i ddosbarthu gwobrau i’r goreuon ym mhob rhanbarth. Dywedodd: “Mae hyfforddiant galwedigaethol yn agos at fy nghalon ac mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn cynnig cyfle gwych i bobl ifanc brofi eu hunain a datblygu eu sgiliau.
“Mae ein llywodraeth yn blaenoriaethu cefnogi ieuenctid tuag at ddyfodol addawol ac mae cystadlaethau fel hyn yn eu hannog i wthio ffiniau yn adeiladol.
“Wrth gwrdd ag enillwyr medalau WorldSkills 2024, rydw i wedi gweld sut mae’r cystadlaethau hyn yn datblygu gyrfaoedd – rwy’n hyderus y bydd y dalent newydd hon yr un mor llwyddiannus. Llongyfarchiadau i’r holl gystadleuwyr a phob lwc i’r rhai sy’n cynrychioli Cymru yn genedlaethol a thu hwnt.
“Bydd yn anrhydedd i Gymru groesawu WorldSkills UK fis Tachwedd yma. Edrychaf ymlaen at weld y dalent eithriadol yn cael ei harddangos.”
Mynegodd Eddy Jones, Hyrwyddwr Sgiliau Grŵp Colegau NPTC ei falchder yng nghyflawniadau’r myfyrwyr: “Mae’r ffaith bod 16 o’n myfyrwyr wedi ennill medalau yn amlygu eu hymroddiad i’w crefftau ac ansawdd eithriadol yr addysgu a’r hyfforddi yn y Coleg. Mae ein llwyddiant cyson mewn cystadlaethau ar draws disgyblaethau amrywiol yn dangos y safonau uchel o hyfforddiant a ddarperir yn ein holl safleoedd y coleg, gan arddangos ystod amrywiol o sgiliau ymhlith ein myfyrwyr. Dwi’n falch iawn o’r holl enillwyr a dwi wrth fy modd i weld sut maent yn symud ymlaen mewn cystadlaethau Sgiliau yn y dyfodol.”
Dyma restr gyflawn o’r enillwyr medalau:
Aur
William Davies – Plastro
Daisy Cullen – Sgiliau Sero Net
Finley Jones – Sgiliau Sero Net
Thomas Morgan – Sgiliau Sero Net
Timothy Stephenson – Sgiliau Sero Net
Ashley Coles – Technegydd Labordy
Eleri Davies – Patisserie a Melysion
Faith Kirkham – Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Arian
Joseph Battle – Technegydd Labordy
Poppy Bowen-Heath – Patisserie a Melysion
Casper O’Toole-Bateman – Dylunio Ffasiwn a Thechnoleg
Efydd
Christopher Carter – Technoleg Cerbydau Modurol Ysgafn
Tyler Rees – Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Rosie Routledge – Gofal Plant
Samuel Hockey – Sgiliau Cynhwysol: Datrysiadau Meddalwedd TG ar gyfer Busnes
Kai Davies – Datblygu’r We