CYFLWYNIAD
Mae’r adran hon yn cwmpasu gwybodaeth sy’n ymwneud â pherthynas y sefydliad â’i amgylchedd allanol. Mae hyn yn cynnwys yr adroddiadau ffurfiol y mae’n ofynnol i’r sefydliad eu darparu ar gyfer ei gyrff cyllido, trefniadau gyda sefydliadau eraill, sut y mae’n rheoli ei berthynas â’r gymuned leol a sut y mae’n cadw mewn cysylltiad â’i gyn-staff a’i gyn-fyfyrwyr.
Oherwydd eu natur, bydd y rhan fwyaf o sefydliadau yn ôl pob tebyg yn cael bod mwyafrif y dosbarthiadau hyn eisoes ar gael i’r cyhoedd mewn rhyw ffordd. Mae aelodau o’r cyhoedd hefyd yn debygol o gael bod yr un wybodaeth neu wybodaeth gysylltiedig ar gael gan y partneriaid allanol y mae gan y sefydliad gysylltiadau â nhw.
Lle bo’r rhain eisoes yn y parth cyhoeddus, dylid darparu dolenni gwe neu fanylion ynglyn â sut y gellir eu cael.
8.1 CYSWLLT Â’R GYMUNED
Disgrifiad:
Mae’r dosbarth hwn yn cynnwys gwybodaeth am berthynas y sefydliad â’r gymuned leol. Mae’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys o fewn y dosbarth hwn yn cynrychioli ymagwedd y sefydliad at gynnal a meithrin y berthynas honno.
Cofnodion cyfarfodydd y Bartneriaeth Pobl Ifanc | Ar bapur | Am ddim |
Cofnodion cyfarfodydd Fforwm Canol Tref Castell-nedd | Ar bapur | Am ddim |
8.2 CODI ARIAN
Disgrifiad:
Mae gwybodaeth sydd wedi’i chynnwys o fewn y dosbarth hwn yn ymwneud â’r gweithgareddau yr ymgymerwyd â nhw gan y sefydliad i godi refeniw yn ychwanegol at y refeniw a ddarparwyd gan ei brif gyrff cyllido. Enghreifftiau o’r math o wybodaeth yn y dosbarth hwn yw:
Taflenni Hyrwyddo Hyfforddiant Cymru | Ar bapur | Am ddim |
Prosbectws Hyfforddiant Pathways | Ar bapur | Am ddim |
8.3 CYSYLLTIADAU Â’R LLYWODRAETH A RHEOLYDDION
Disgrifiad:
Mae’r dosbarth hwn yn ymwneud â’r wybodaeth y mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar y sefydliad i sicrhau ei bod ar gael i’w gyrff cyllido a/neu fonitro. Gall deunydd o’r fath ddarparu gwybodaeth ynglyn â pha mor dda y mae’r sefydliad yn perfformio. Mae enghreifftiau o’r math o wybodaeth yn y dosbarth hwn yn cynnwys:
- Adroddiadau / datganiadau i gynghorau cyllido, arolygiaethau, cyrff safonau, cynghorau ymchwil, cyrff proffesiynol, adrannau’r llywodraeth, ac ati.
- Arolygiadau’r Swyddfa Safonau mewn Addysg (ar gyfer Addysg Bellach), Polisïau Ymarferion Asesu Ansawdd Addysgu ac Asesu Ymchwil (gweler hefyd Addysgu a Dysgu).
Gall fod nifer o’r rhain wedi’u cyhoeddi eisoes, ond efallai y bydd sefydliad yn dymuno darparu dolenni atynt yn yr achosion hyn.
8.4 MARCHNATA A RECRIWTIO
Disgrifiad:
Mae’r dosbarth hwn yn cynnwys cyhoeddiadau sy’n ymwneud â recriwtio myfyrwyr (yn y DU ac yn Rhyngwladol), gan gynnwys prosbectws y coleg. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â’r profiad dysgu.
Strategaeth Marchnata | Ar bapur | Am ddim |
Prosbectysau’r Colegpectuses i Fyfyrwyr Amser Llawn Myfyrwyr Rhan-amser Addysg Uwch Dycwhwelyd i Ddysgu Cymraeg i Oedolion Hyfforddiant Pathways. |
Website | Am ddim |
Taflenni Cwrs/Pwnc | Ar bapur | Am ddim |
8.5 CYSYLLTIADAU CYHOEDDUS
Disgrifiad:
Mae’r dosbarth hwn yn cynnwys gwybodaeth sy’n cael ei chreu yn benodol gan y sefydliad er mwyn helpu i roi cyhoeddusrwydd i’w gyfleusterau a’i weithgareddau. Bydd y rhan fwyaf o wybodaeth o’r fath wedi’i chreu ar gyfer darpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol, ond gall fod o gryn ddiddordeb hefyd i’r rheini sy’n dymuno gwybod mwy am yr hyn y gall y sefydliad ei gynnig a gweithgareddau ei fyfyrwyr a’i staff:
Cyhoeddiadau i’r Wasg | Ar bapur | Am ddim |
Cylchlythyrau’r Coleg Trainingwales Myfyrwyr |
Ar bapur | Am ddim |
Hyfforddiant Pathway | Ar bapur | Am ddim |