Mae Grŵp Colegau NPTC yn ymroddedig i’ch helpu chi i wneud y dewis cywir a gwireddu eich breuddwydion!

Rydym nid yn unig yn darparu ystod wych o gyrsiau Safon Uwch llawn-amser, cyrsiau galwedigaethol â ffocws gyrfaol a phrentisiaethau mewn amgylcheddau sy’n adlewyrchu byd gwaith, ond rydym hefyd yn cynnig cymorth unigol i ddiwallu eich anghenion penodol chi.

Yn fwy na hynny, mae dewis astudio gyda ni’n golygu y bydd gennych fynediad at staff â chymwysterau uchel a chyfoeth o brofiad o’r diwydiant a hefyd ystod o adnoddau eithriadol a chyfleoedd allgyrsiol megis ein hwb Menter a Chyflogadwyedd a’n holl Academïau Chwaraeon, Cerddoriaeth a Dawns.

Mae ymadawyr ysgol wedi pleidleisio Grŵp Colegau NPTC fel y darparwr hyfforddiant mwyaf blaenllaw yng Nghymru a’r deg uchaf yn y DU yn y ‘Gwobrau Gadael Ysgol 2020’. Fe’n pleidleisiwyd hefyd fel y coleg addysg bellach rhif dau yn y DU a’r degfed am y profiad dysgu gorau. Nid oes amser gwell i ymuno â ni!

Cymerwch gip ar ein cyrsiau amser llawn isod. Ar ôl i chi benderfynu, gallwch glicio ar y botwm ‘Gwnewch Gais ‘Nawr’ ar dudalen y cwrs i gychwyn eich cais.

Gallwch ddarganfod mwy am ein tudalen ‘Sut wneud i cais’.




Cwrs
Diploma Lefel 3 mewn Troseddeg (Llawn Amser) - Addysg Bellach
Diploma Lefel 3 NCFE mewn Cyfarwyddo Ffitrwydd a Hyfforddiant Personol Bl 1 o 2 [Amser Llawn] - Addysg Bellach
Diploma Lefel 4 UAL Technegol a Chynhyrchu ar gyfer y Diwydiannau Creadigol (Amser Llawn) - Addysg Bellach
Diploma mewn Esports Lefel 2 (Llawn Amser) - Addysg Bellach
Diploma Mynediad i Addysg Uwch – Gwyddoniaeth (Amser Llawn) - Addysg Bellach
Diploma Mynediad i AU – Y Dyniaethau a Gwyddor Gymdeithasol (Amser Llawn) - Addysg Bellach
Diploma NCFE Lefel 2 mewn Chwaraeon (Amser-Llawn) - Addysg Bellach
Diploma NVQ Lefel 2 VTCT mewn Therapi Harddwch (19 oed a throsodd) (Amser Llawn) - Addysg Bellach
Diploma Proffesiynol Lefel 4 mewn Perfformio - Addysg Bellach
Diploma Sylfaen Lefel 3/4 mewn Celf a Dylunio (Amser Llawn) - Addysg Bellach