Bydd y rhaglen hon yn siwtio myfyrwyr sy’n dymuno datblygu ystod eang o sgiliau a gwybodaeth sy’n berthnasol i weithio a^ phlant. Mae hyn yn cynnwys nyrsys, ymwelwyr iechyd, addysgwyr blynyddoedd cynnar, gweithwyr meithrinfeydd yn y sectorau cyhoeddus ac annibynnol, gweithwyr cymdeithasol a phobl sy’n gweithio yn y sectorau cy awnder ieuenctid a gorfodi’r gyfraith.
Mae’r cwrs hwn yn cael ei redeg mewn partneriaeth gyda Prifysgol De Cymru.
Mae’r meini prawf mynediad yn nodweddiadol, ond mae’r Coleg yn ystyried pob cais yn unigol, sy’n golygu y gallwn roi cynigion yn seiliedig ar gymwysterau, prof l personol a phro ad. Os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas a^’ch cynnig, cysylltwch a^’n Ti^m Derbyniadau. Cynnig nodweddiadol: 2 Safon Uwch gradd D neu brof l MP/PPP mewn cymhwyster Lefel 3 BTEC a thri TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol).
Y llwybr dilyniant cydnabyddedig ar gyfer y cwrs hwn yw BSc (Anrh) mewn Astudiaethau Plentyndod - gradd atodol. Mae gan raddedigion gy eoedd cy ogaeth mewn ystod eang o ddisgyblaethau ym maes gofal plant, er enghraifft: gweithiwr chwarae, gweithiwr plentyn/ teulu, rheolwr gofal plant, a gweithwyr cymorth dysgu.
Bydd y rhaglen yn cynnwys darlithoedd, seminarau, gwaith prosiect a sesiynau tiwtorial. Bydd rhaid i chi gyflawni cyflwyniadau ac aseiniadau ysgrifenedig wrth i chi gamu ymlaen trwy’r rhaglen. Mae un o’r modiwlau yn gofyn am aseiniad ymarferol.
Mae modiwlau yn cynnwys:
Lefel 4 (Blwyddyn 1):
- Cymhwyso Theori at Ddatblygiad Cyfannol Plant a Phobl Ifanc
- Arweinyddiaeth a Chynhwysiant o fewn i Ymarfer sy’n Canolbwyntio ar Blant
- Sgiliau Astudio ar gyfer AU
- Ymarfer Arweiniol mewn Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc
- Cyflwyniad i Ymchwil gyda Phlant a Phobl Ifanc
Lefel 5 (Blwyddyn 2):
- Iechyd a Llesiant Plant a Phobl Ifanc
- Diogelu Plant a Phobl Ifanc
- Materion y Cwricwlwm
- Chwarae a Hamdden
- Ymarfer Uwch mewn Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc
Er mwyn bodloni gofynion y cwrs, mae disgwyl i ddysgwyr ennill cyflogaeth wirfoddol neu gyflogedig mewn lleoliad lle y mae plant neu bobl ifanc, gan weithio o leiaf 600 awr dros gyfnod o 2 flynedd.
Bydd raid i chi gwblhau cy wyniadau a thasgau ysgrifenedig wrth i chi symud ymlaen drwy’r rhaglen. Mae asesiad ymarferol yn ofynnol mewn un modiwl.