Crynodeb o’r cwrs

Bydd y radd BA (Anrh) Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ar Gampws y Brifysgol, Grwp Colegau NPTC yn eich helpu i ddarganfod a datblygu eich llais fel awdur a beirniad. Bydd yr awduron gwych y byddwch yn eu hastudio yn ysbrydoli ac yn dylanwadu ar eich ysgrifennu. Yn y cyfamser, bydd datblygu eich gwaith creadigol eich hun ar y radd yn arwain at fewnwelediadau newydd i dechneg a fydd, yn ei dro, yn hogi eich dadansoddiad o destunau llenyddol. Mewn seminarau byddwch yn cael eich gwahodd i ystyried y ffyrdd y mae llenyddiaeth ac ysgrifennu yn fyw, gan ymgysylltu â materion cyfoes fel anghydraddoldeb rhyw, dad-drefedigaethu, newid hinsawdd a mwy. Cyflwynir y cwrs hwn mewn cydweithrediad â phartner dyfarnu Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac mae’n amodol ar ddilysiad.