Crynodeb o’r cwrs
Mae Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus Cyfun Lefel 2 BTEC yn gwrs Addysg Bellach Amser Llawn wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sy’n dyheu am weithio yn y sectorau chwaraeon a chyhoeddus. Mae’r cwrs hwn wedi’i leoli yn yr adran Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus (SPS).
Byddwch yn cwblhau asesiadau ymarferol ac ysgrifenedig ochr yn ochr â phrosiectau. Mae’r rhain yn seiliedig ar sefyllfaoedd realistig yn y gweithle, gweithgareddau a gofynion Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus. Byddwch yn edrych ar wahanol agweddau ar bob sector. Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylfaen dda i chi fynd ar gymhwyster uwch yn gysylltiedig â gwaith.