Crynodeb o’r cwrs
Mae’r cwrs BTEC Tystysgrif Cyfunol Lefel 1 mewn Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai yn cyfuno BTEC Pearson Tystysgrif Rhagarweiniol Lefel 1 mewn Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai. Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i’ch paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiannau chwaraeon a gwasanaethau cyhoeddus neu ar gyfer myfyrwyr sydd am gamu ymlaen i’r cwrs Lefel 2 mewn Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae’r modiwlau yn cynnwys: gweithio yn y diwydiant chwaraeon/hamdden, cymryd rhan mewn ymarfer corff a ffitrwydd, cynllunio eich rhaglen ffitrwydd eich hunan, darllen mapiau, sgiliau alldaith a gwaith tîm ymarferol yn y gwasanaethau cyhoeddus. Mae hwn wedi’i leoli yn yr adran Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus (SPS).