Busnes, Rheolaeth a TG – BA (Anrh) (Amser-Llawn) Corff Dyfarnu: Prifysgol Wrecsam
Crynodeb o’r cwrs
Mae’r rhaglen hon i fyfyrwyr sy’n dymuno dysgu sut i ddefnyddio technoleg gwybodaeth gyfoes ac arferion rheoli cyfoes sy’n gysylltiedig â rheoli pobl a phrosiectau. Mae modiwlau ym mlwyddyn un yn cynnwys: Busnes: Yn y Gorffennol, y Presennol a’r Dyfodol, Sgiliau Cyfathrebu Busnes ar gyfer Marchnata, Economeg, Datblygiad Proffesiynol mewn Cyfrifiadura: Peirianneg Gwybodaeth, Technolegau’r We a Systemau Cyfrifiadurol. Ym mlwyddyn dau: Cyfraith Fusnes, Ennyn Ymgysylltiad Pobl a’u Harwain, Hysbysebu a Brandio, Cyfrifiadura Cyfrifol, Dylunio Prosiectau Grwp, y Berthynas rhwng Pobl a Chyfrifiaduron. Ym mlwyddyn tri: Meddwl Strategol, Marchnata Strategol, Rheoli Prosiectau TG, Cyfrifiadura yn yr 21ain Ganrif a Thraethawd Hir.
Mae’r cwrs hwn yn cael ei redeg mewn partneriaeth gyda Prifysgol Wrecsam
Mae'r meini prawf mynediad yn nodi cynnig nodweddiadol ond mae'r Coleg yn ystyried pob cais ar sail unigol sy'n golygu y gallem wneud cynigion yn seiliedig ar gymwysterau, proffil personol a phrofiad. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch eich cynnig cysylltwch â'n Tîm Derbyn. Cynnig nodweddiadol: 3 Safon Uwch â gradd C neu broffil DD/MMM o gymhwyster Lefel 3 BTEC a phum TGAU â Gradd C neu uwch, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfwerth).
Gallwch gamu ymlaen at amrywiaeth o gyrsiau ôl-raddedig sy'n gysylltiedig â gofal plant, gan gynnwys TAR yn y Blynyddoedd Cynnar/Addysg Gynradd. Mae gan raddedigion ragolygon gyrfa mewn ystod eang o ddisgyblaethau gofal plant, er enghraifft: gweithwyr cymorth, rheolwyr gofal plant, gweithwyr cymorth dysgu a chynorthwywyr addysgu.
Lefel 4 (Blwyddyn 1) Gall Modiwlau Gynnwys:
Yr Amgylchedd Busnes
Rheoli Data
Peirianneg Gwybodaeth a Systemau
Busnes, Cyllid a Thechnoleg
Hanfodion Marchnata
Dylunio a Datblygu’r We
Lefel 5 (Blwyddyn 2) Gall Modiwlau Gynnwys:
Arwain ac Ymgysylltu â Phobl
Systemau Gywbodaeth Seiliedig ar y We a Chronfeydd Data
Lleoliad Gwaith neu Brosiect Seiliedig ar Waith
Cyfrifiadura Cyfrifol
Cyfraith Busnes
Lefel 6 (Blwyddyn 3) Gall Modiwlau Gynnwys:
Meddwl yn Strategol
Rheoli Prosiect TG
Traethawd Estynedig
Marchnata Strategol
Technolegau’r Dyfodol
Fel arfer bydd yn rhaid i chi gwblhau portffolios, cyflwyniadau ac aseiniadau ysgrifenedig wrth i chi gamu ymlaen, ac fel arfer bydd yn rhaid i chi sefyll arholiadau ar ddiwedd pob blwyddyn academaidd