Mae’r cwrs hwn wedi’i fwriadu ar gyfer y rhai sy’n dymuno ennill cymhwyster sy’n canolbwyntio ar feysydd allweddol busnes a rheoli y bydd ar unrhyw ddarpar reolwr neu berchennog busnes eu hangen. Mae’r cwrs Safon Uwch yn cynnwys ystod eang o bynciau busnes gan gynnwys Cyfleoedd Busnes, Swyddogaethau Busnes, Dadansoddi Busnes a Strategaeth Fusnes yn ogystal â Busnes mewn byd sy’n newid.
Ymgeisio am Lefelau UG neu Lefel A? Cliciwch ‘Gwnech Gais Nawr’ ar unrhyw UN o’r pynciau y mae gennych ddiddordeb mewn eu hastudio. Llenwch y ffurflen gais ar-lein, lle gofynnir i chi nodi’ch dau ddewis arall. Yna archebwch apwyntiad Cyfweliad i gwrdd â’r tiwtoriaid a thrafod y dewisiadau sydd orau gennych.
Isafswm o 6 TGAU â Gradd C neu uwch gan gynnwys Saesneg a Mathemateg. Gradd B yn Iaith Saesneg yn ddymunol
Gallwch symud ymlaen yn uniongyrchol i'r gwaith neu ymlaen i Radd amser llawn neu ran amser yng Ngrwp Colegau NPTC neu mewn sefydliad addysg uwch arall.
Mae cymhwyster Lefel 3 mewn Busnes yn darparu sylfaen gadarn i symud ymlaen i raglenni Gradd mewn Busnes, Rheolaeth, Cyfrifeg, Marchnata, Personél a'r proffesiwn Cyfreithiol.
Mae'r cwrs yn ymdrin ag ystod eang o bynciau gan gynnwys Cyfleoedd Busnes, Swyddogaethau Busnes, Dadansoddi Busnes a Strategaeth yn ogystal â Busnes mewn byd sy'n newid.
Mae asesu ar ffurf dau arholiad ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf, ynghyd â dau arholiad ar ddiwedd yr ail flwyddyn.
Efallai y bydd costau cysylltiedig â chwrs am eitemau fel, ond heb fod yn gyfyngedig i, werslyfrau, deunydd ysgrifennu, argraffu, ac ymweliadau addysgol dros nos.