Crynodeb o’r cwrs
Mae HNC Cyfrifiadura yn gwrs addysg uwch 2 flynedd, lefel 4, sydd wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion sy’n dymuno datblygu gyrfa yn y sectorau Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol cyffrous a chyfnewidiol.
Mae HNC Cyfrifiadura yn gwrs addysg uwch 2 flynedd, lefel 4, sydd wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion sy’n dymuno datblygu gyrfa yn y sectorau Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol cyffrous a chyfnewidiol.
Rhaid i ddysgwyr fod yn 18 oed o leiaf.
2 Safon Uwch Gradd E neu broffil PP/PPP o gymhwyster BTEC Lefel 3. Hefyd, 5 TGAU Gradd C neu uwch, i gynnwys Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfwerth).
Mae croeso hefyd i ddysgwyr aeddfed (dros 21 oed) nad oes ganddynt gymwysterau ffurfiol, ond sy'n gallu dangos profiad gwaith perthnasol, a/neu gyflawni cymwysterau proffesiynol mewn Cyfrifiadura neu TG, wneud cais (a chânt eu hasesu'n unigol). Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'n Tîm Derbyn.
Mae gan raddedigion ragolygon cyflogaeth mewn disgyblaethau sy'n ymwneud â Chyfrifiadura, gan gynnwys datblygu Cymwysiadau, Dadansoddi Systemau Busnes, Datblygu a Gweinyddu Cronfeydd Data, Ymgynghoriaeth / Rheoli Systemau Gwybodaeth, Datblygu Gemau / Amlgyfrwng, Dylunio a Datblygu Gwefannau, Rheoli Rhwydwaith, Ymgynghoriaeth / Rheolaeth Seiberddiogelwch, Gweithrediadau TG a Thechnegol. Cefnogaeth
Fel arall, mae llwybr dilyniant cydnabyddedig i flwyddyn 2 y cwrs HND Cyfrifiadura a gynigir yng Ngrwp Colegau NPTC.
• Rhaglennu
• Rhwydweithio
• Ymarfer Proffesiynol
• Dylunio a Datblygu Cronfeydd Data
• Diogelwch
• Cynllunio Prosiect Cyfrifiadura
• Cylchoedd Oes Datblygu Meddalwedd
• Dylunio a Datblygu Gwefan
Bydd yn rhaid i chi gwblhau cyflwyniadau ac aseiniadau ysgrifenedig wrth i chi gamu ymlaen drwy'r rhaglen.