We use cookies and similar tools to collect information from our website visitors to analyze our website usage and to market our products and services to you. Such information includes the referrer URL, browser type, IP address, and date, time and duration of the visit. We also share information about your use of our site with our social media, marketing and analytics partners, who may combine it with other information you’ve provided to them or they’ve collected from your use of their services. In case you do not wish to give your consent, you may nonetheless use this website without restriction. You can revoke your consent at any time. Further information may be found here and on the privacy policy on this website.
Mae HND Cyfrifiadura yn gwrs addysg uwch 2 flynedd, lefel 4/5, sydd wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion sy’n dymuno datblygu gyrfa yn y sectorau Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol cyffrous a chyfnewidiol.
• 2 Lefel A gradd D neu broffil MP/PPP o gymhwyster BTEC Lefel 3. Hefyd 5 TGAU Gradd C neu uwch, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfwerth
• HNC mewn Cyfrifiadura (cyfwerth â blwyddyn gyntaf yr HND)
• Mae croeso hefyd i ddysgwyr aeddfed (dros 21 oed) nad oes ganddynt gymwysterau ffurfiol, ond sy'n gallu dangos profiad gwaith perthnasol, a/neu gyflawni cymwysterau proffesiynol mewn Cyfrifiadura neu TG, wneud cais (a chânt eu hasesu'n unigol). Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'n Tîm Derbyn.
Mae gan raddedigion ragolygon cyflogaeth mewn disgyblaethau sy'n ymwneud â Chyfrifiadura, gan gynnwys datblygu Cymwysiadau, Dadansoddi Systemau Busnes, Datblygu a Gweinyddu Cronfeydd Data, Ymgynghoriaeth / Rheoli Systemau Gwybodaeth, Datblygu Gemau / Amlgyfrwng, Dylunio a Datblygu Gwefannau, Rheoli Rhwydwaith, Ymgynghoriaeth / Rheolaeth Seiberddiogelwch, Gweithrediadau TG a Thechnegol. Cefnogaeth
Fel arall, mae llwybr dilyniant cydnabyddedig i'r cwrs BSc (Anrh) Cyfrifiadura Cymhwysol a gynigir yng Ngrwp Colegau NPTC.
Blwyddyn 1:
• Rhaglennu
• Rhwydweithio
• Dylunio a Datblygu Cronfeydd Data
• Diogelwch
• Cylchoedd Oes Datblygu Meddalwedd
• Dylunio a Datblygu Gwefan
• Cynllunio Prosiect Cyfrifiadura
• Ymarfer Proffesiynol
Blwyddyn 2:
• Prosiect Ymchwil Cyfrifiadura
• Gwybodaeth Busnes
• Systemau Rheoli Cronfeydd Data
Ynghyd â 4 opsiwn o’r llwybrau canlynol (yn amodol ar alw a hyfywedd):
• Peirianneg Meddalwedd: Datblygu Cymwysiadau, Rhyngwynebau Rhaglenni Cymwysiadau, Profiad Defnyddwyr a Dylunio Rhyngwyneb, Datblygu Gemau
• Technolegau sy'n dod i'r amlwg: Rhyngrwyd Pethau, Datblygiad Realiti Rhithwir ac Estynedig, Roboteg, Cyfrifiadura Cwmwl
• Seiberddiogelwch: Diogelwch Rhwydwaith, Fforensig, Systemau Gweithredu, Cryptograffeg Gymhwysol yn y Cwmwl
• Datblygu'r We - Systemau Cyfrifiadura Cleient/Gweinydd, Cyfrifiadura Cwmwl, E-Fasnach a Strategaeth
• Dadansoddeg Busnes: Dadansoddi a Delweddu Data Mawr, Profiad y Defnyddiwr a Dylunio Rhyngwyneb, Technolegau Digidol fel Catalydd ar gyfer Newid
Bydd yn rhaid i chi gwblhau aseiniadau ysgrifenedig wrth i chi gamu ymlaen drwy'r rhaglen.