Crynodeb o’r cwrs
Mae Cyfrifiadureg Lefel UG / Safon Uwch yn gofyn am ddisgyblaeth resymegol a chreadigrwydd dychmygus wrth ddylunio ac ysgrifennu rhaglenni. Mae hyn yn annog ymwybyddiaeth o reoli a threfnu systemau cyfrifiadurol mewn TG. Mae hwn wedi’i leoli yn yr Academi Chweched Dosbarth (SFA).
Mae Blwyddyn Un yn ymwneud â chaffael gwybodaeth a dealltwriaeth o feddalwedd, datblygu system, data a chymwysiadau, a defnyddio’r wybodaeth hon i ddatblygu datrysiad i broblem benodol. Mae Blwyddyn Dau yn adeiladu ar sylfaen Blwyddyn Un ac yn arwain at ddatblygu datrysiad i broblem sylweddol o ddewis yr ymgeisydd ei hun.
Ymgeisio am Lefelau UG neu Lefel A? Cliciwch ‘Gwnech Gais Nawr’ ar unrhyw UN o’r pynciau y mae gennych ddiddordeb mewn eu hastudio. Llenwch y ffurflen gais ar-lein, lle gofynnir i chi nodi’ch dau ddewis arall. Yna archebwch apwyntiad Cyfweliad i gwrdd â’r tiwtoriaid a thrafod y dewisiadau sydd orau gennych.