Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig (Peirianneg Sifil) (Amser Llawn)
Crynodeb o’r cwrs
Mae Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig (Peirianneg Sifil) yn gwrs Addysg Bellach Llawn Amser ar lefel uwch, lle mae ystod o fodiwlau adeiladu yn cael eu hastudio. Mae’r rhain yn cynnwys: iechyd, diogelwch a lles, arolygu safleoedd, adeiladu cynaliadwy, a Mathemateg, Gwyddoniaeth a deunyddiau mewn adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.
Bydd y cwrs hwn yn diwallu anghenion y rhai sy’n dyheu am yrfa broffesiynol neu dechnegol ym maes adeiladu a pheirianneg sifil. Mae’r cwrs nid yn unig yn gweithredu fel llwybr i gyflogaeth amser llawn yn y diwydiant, ond mae hefyd yn llwybr dilyniant profedig i Addysg Uwch.
Gall hyn fod yn rhaglenni statws gradd llawn mewn Prifysgolion neu’n barhad yng Ngrwp Colegau NPTC, yn astudio’r Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC).
Bagloriaeth Genedlaethol Cymru a chymwysterau TGAU pwnc penodol yn unol â gofynion.
Mae'r cyfleoedd gyrfa yn y sector adeiladu a pheirianneg sifil yn ddiddiwedd, gan gynnwys proffesiynau fel Pensaernïaeth, Pensaernïaeth Mewnol, Gwasanaethau Peirianneg Adeiladu, Arolygu Meintiau, Rheoli Safleoedd, ac Arolygu Adeiladau.
Mae'r galwedigaethau technegol a phroffesiynol yn y sector yn symud yn gyflym ac yn heriol. Gallech fod yn rhan o weld trwy brosiect yr holl ffordd o'r cam dylunio i'r adeiladu a'r cwblhau. Gallai'r prosiectau hyn gynnwys datblygu ac adeiladu pontydd, twneli, ffyrdd, rheilffyrdd, argaeau, adeiladau mawr, prosiectau arfordirol, gorsafoedd pwer yn ogystal â safleoedd ynni adnewyddadwy newydd.
Yn ogystal, fe allech chi barhau â phrentisiaethau Technegol neu broffesiynol ar lefel 3 a 4, Addysg Uwch, HNC Lefel 4 mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig, HNC Lefel 4 mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig (Peirianneg Sifil), HNC Lefel 4 mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig (Arolygu Meintiau).
Mae'r cwrs yn cynnwys 18 uned sy'n cynnwys lluniadu CAD, arolygu safleoedd, adeiladu cynaliadwy, gwyddoniaeth a deunyddiau ym maes adeiladu a'r amgylchedd adeiledig, Math's plus Heath, Diogelwch a Lles. Disgwyliwn y gall ein myfyrwyr gael eu cyflogi'n rhan amser.
Mae'r cwrs wedi'i strwythuro fel bod gwaith rhan amser yn ymarferol, ac yn dal i adael amser i gwblhau gwaith coleg gartref. Mae asesu ar ffurf profion cyfnod cwrs, aseiniadau ac ymarferion ymarferol.