Crynodeb o’r cwrs
Mae’r Diploma Lefel 1 mewn Sgiliau Pobi yn y Diwydiant Bwyd (FDQ) yn gwrs Addysg Bellach Llawn Amser sydd wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sy’n ystyried gweithio fel pobydd, mewn amgylchedd pobi neu weithgynhyrchu bwyd. Mae hwn wedi’i leoli yn yr adran Arlwyo, Lletygarwch ac Amaethyddiaeth (CHA).
Mae’n cynnig cyfle i ddysgwyr ddatblygu sgiliau ymarferol uwch a gwybodaeth mewn ystod eang o dechnegau sgiliau diwydiant bwyd, yn yr achos hwn, y diwydiant pobi. Mae’r cwrs yn cynnig cymysgedd unigryw o wybodaeth i chi gydag unedau sy’n cwmpasu gwybodaeth am y diwydiant bwyd. Mae’n gymhwyster cyflenwol i gefnogi datblygiad unigol ar gyfer cymwysterau hyfedredd mewn Sgiliau’r Diwydiant Pobi a hefyd ar gyfer Prentisiaethau.