Crynodeb o’r cwrs
Mae Diploma Lefel 1 UAL mewn Celf, Dylunio a’r Cyfryngau yn gwrs amser llawn yn y Drenewydd sydd wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno ennill profiad a sgiliau mewn cynhyrchu Celf, Dylunio a’r Cyfryngau Creadigol. Ar ddiwedd y cwrs blwyddyn, gall dysgwyr symud ymlaen i Ddiploma Lefel 2 mewn Cynhyrchu a Thechnoleg Cyfryngau Creadigol, Celf a Dylunio neu’r Celfyddydau Perfformio.
Mae’r maes llafur yn cynnig ystod eang o weithgareddau ymarferol ac academaidd, gan gynnwys dysgu sgiliau celf traddodiadol, Darlunio, ffotograffiaeth, animeiddio, cynhyrchu fideo, sgiliau golygu a dylunio. Mae creadigrwydd a dychymyg yn allweddol, tra bod sgiliau dadansoddi da yn bwysig i wireddu eich syniadau cynhyrchiol.
Os ydych chi wedi ymrwymo i astudiaeth bellach neu yrfa mewn cynhyrchu cyfryngol a’r celfyddydau creadigol, yna dyma’r cwrs i chi. Rydym yn yr adran Creadigol, Gweledol a Pherfformio (CVP).