Crynodeb o’r cwrs
Mae’r Diploma Lefel 2 mewn Amaethyddiaeth yn gwrs Addysg Bellach Amser Llawn wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn ffermio a dulliau amaethyddol.
Fel rheol, rydych chi’n mynychu’r coleg am dri diwrnod yr wythnos ac yn astudio pob agwedd ar amaethyddiaeth sylfaenol i gynnwys cynhyrchu da byw, cynnal a chadw ystadau cynhyrchu cnydau a chynnal a chadw a gweithrediadau tractor a pheiriannau. Treulir y diwrnodau sy’n weddill yn ennill profiad gwaith perthnasol mewn fferm addas.
Mae hwn wedi’i leoli yn yr adran Arlwyo, Lletygarwch ac Amaeth (CHA).
Bagloriaeth Cymru Sylfaen - Llwyddiant/Llwyddiant* a detholiad priodol o gymwysterau TGAU, Graddau A*-E.
Gellid camu ymlaen i brentisiaeth Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth neu’r Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth
Byddwch yn cael cyfle i gymryd tystysgrifau cymhwysedd mewn: ATV, Triniwr Telesgopig, ac ati, Cyflwyniad i Gynhyrchu Anifeiliaid Fferm, Cyflwyniad i Weithrediadau Peiriannau Tir, Cyflwyniad i Hwsmonaeth Anifeiliaid a Phlanhigion, Gyrru Tractor, Cyflwyniad i Weithdy ar y Tir Ymarfer, Cyflwyniad i Gynhyrchu Cnydau Glaswellt a Phorthiant.
Bydd angen dillad ac esgidiau gwaith priodol arnoch i gynnwys oferôls, dillad gwrth-ddwr, esgidiau toecap dur a welingtons. Rhaid i'r holl ddillad ac esgidiau gweithio fod yn lân gan fod bioddiogelwch o'r pwys mwyaf.