Crynodeb o’r cwrs

Mae’r Diploma Lefel 2 mewn Amaethyddiaeth: Llwybr Peirianneg yn gwrs Addysg Bellach Llawn Amser sydd wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn cynnal a chadw ac atgyweirio peiriannau amaethyddol.

Fel arfer byddwch yn mynychu’r coleg am dri diwrnod yr wythnos ac yn astudio pob agwedd ar beirianneg amaethyddol sylfaenol gan gynnwys cynnal a chadw tractorau a pheiriannau a gweithrediadau. Bydd y diwrnodau sy’n weddill yn cael eu treulio yn cael profiad gwaith perthnasol o fewn gweithle addas megis gweithdy peiriannau amaethyddol neu ddelwriaeth.

Mae hwn wedi’i leoli yn yr adran Arlwyo, Lletygarwch ac Amaethyddiaeth (CHA).