Diploma Mynediad i AU – Y Dyniaethau a Gwyddor Gymdeithasol (Rhan Amser)
Crynodeb o’r cwrs
Mae’r Diploma Mynediad i AU – Y Dyniaethau yn gwrs blwyddyn amser llawn wedi’i gynllunio i baratoi myfyrwyr i astudio’r Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol mewn Addysg Uwch. Mae’n rhoi i chi yr wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i symud ymlaen i Addysg Uwch neu i wella eich potensial o ran cyflogaeth.
Mae’r cwrs hwn yn gwrs hybrid gyda rhai darlithoedd yn cael eu cyflwyno wyneb yn wyneb a rhai darlithoedd yn cael eu cyflwyno ar-lein.
Gall dysgwyr nad oes ganddynt unrhyw gymwysterau ffurfiol wneud cais; fodd bynnag, bydd angen asesiad sgiliau a chyfweliad i bennu addasrwydd ar gyfer y cwrs.
Ni fydd angen i ddysgwyr â Mathemateg a Saesneg Iaith TGAU gradd C neu uwch ymgymryd â'r asesiad sgiliau ond byddant yn cael cyfweliad.
Dylai fod gan ymgeiswyr agwedd gadarnhaol a dylent allu ymdopi'n dda â heriau a bod yn frwdfrydig, yn ddibynadwy ac yn aeddfed.
Mae cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn caniatáu mynediad i amrywiaeth eang o raglenni gradd yn cynnwys y Gyfraith, Hanes, Saesneg, Seicoleg, Cwnsela, Troseddeg, Ymarfer Dysgu a Gwaith Cymdeithasol.
• Y Gyfraith
• Hanes
• Cyfathrebu
• Rhifedd
• Cymdeithaseg
Bydd dysgu ac addysgu yn digwydd drwy broses o ddarlithoedd, tiwtorialau, seminarau, trafodaethau, arddangosiadau, dysgu cyfunol a gwaith grwp. Caiff dysgwyr eu hasesu gan ddefnyddio amrywiaeth o strategaethau asesu, gan gynnwys cyflwyniadau, traethodau a phrofion dosbarth. Caiff dysgwyr eu hasesu drwy amrywiaeth o ddulliau asesu.