Crynodeb o’r cwrs
Mae Diploma Proffesiynol Lefel 4 UAL mewn Perfformio yn gwrs amser llawn sydd wedi’i gynllunio i roi’r sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth angenrheidiol i fyfyrwyr symud ymlaen i addysg uwch, hyfforddiant conservatoire, neu’n uniongyrchol i gyflogaeth yn y diwydiannau creadigol.
Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymestyn a mireinio eu sgiliau ymarferol tra’n diffinio eu diddordebau personol a’u maes arbenigedd eu hunain. Bydd yn galluogi myfyrwyr i archwilio, datblygu a phrofi eu creadigrwydd o fewn strwythur cymhwyster sy’n ysgogol a heriol ac sy’n darparu trosglwyddiad cefnogol i naill ai hyfforddiant lefel uwch neu gyflogaeth.
Mae’r cymhwyster yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cwblhau Lefel A neu Ddiploma Estynedig Lefel 3 ac sy’n dymuno parhau â’u haddysg trwy ddysgu cymhwysol.
Yma, yng Ngrŵp Colegau NPTC, rydym yn ymroddedig i ddarparu’r addysgu a’r dysgu gorau i bobl sydd am ddilyn gyrfa barhaol yn y Celfyddydau Perfformio.
Byddwch yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau perfformio fel rhan o Ovation Theatre Company (Coleg y Drenewydd), gan ddefnyddio ein stiwdio drama/dawns a Theatr Hafren.
Mae hwn yn gwrs lefel broffesiynol. Fel y cyfryw, mae dechreuwyr fel arfer wedi ennill 3 chymhwyster Lefel A neu gymhwyster galwedigaethol Lefel 3 cyfwerth ar lefel Teilyngdod neu uwch. Yn ogystal, mae angen i bob ymgeisydd fynychu clyweliad yn llwyddiannus.
Gall myfyrwyr sy’n cwblhau Diploma Proffesiynol Lefel 4 UAL mewn Perfformiad symud ymlaen i:
Addysg Uwch/Hyfforddiant Conservatoire
Bydd y cymhwyster yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu portffolio o waith fydd yn eu galluogi i symud ymlaen i
addysg uwch neu gyrsiau Conservatoire.
Cyflogaeth / Hunangyflogaeth
Gall myfyrwyr sy’n cwblhau’r cymhwyster hwn symud ymlaen i rolau yn y diwydiannau creadigol, fel:
• Actor
• Dawnsiwr
• Theatr Gerddorol
• Cerddor
• Cyfarwyddwr
• Dramaturg
• Coreograffydd
Mae'r cwrs yn cynnwys tair uned graidd a rhaid i fyfyrwyr y tair er mwyn cyflawni'r cymhwyster.
Uned 1 - Arfer Proffesiynol Cymhwysol
Mae'r uned hon yn cyflwyno myfyrwyr i realiti amgylchedd gwaith proffesiynol a bydd yn rhoi iddynt y safonau ymarfer proffesiynol angenrheidiol a'r safonau ymarfer proffesiynol sy'n ofynnol o fewn diwydiant.
Uned 2 - Techneg Perfformio Arbenigol
Yn yr uned hon, bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau perfformio er mwyn datblygu eu techneg perfformio.
Uned 3 - Prosiect Perfformiad Arbenigol
Ffocws yr uned olaf hon yw i fyfyrwyr wireddu eu huchelgeisiau perfformiad proffesiynol trwy gychwyn, ymarfer a pherfformio mewn prosiect perfformio arbenigol.
Bydd asesu ar gyfer y cwrs hwn yn barhaus a bydd ar ffurf gweithdai ymarferol, perfformiadau, traethodau ysgrifenedig, portffolios a chyflwyniadau.
Gwiriad DBS sylfaenol ar gyfer myfyrwyr aeddfed.
£50 tuag at deithiau Addysg