Crynodeb o’r cwrs

Mae’r brentisiaeth gradd hon yn cynnig cyfuniad unigryw o astudiaeth academaidd a phrofiad gwaith ymarferol, wedi’i gynllunio i arfogi’r rhai sydd eisoes yn y sector peirianneg â’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn dylunio peirianneg ddiwydiannol. Mae’r rhaglen yn cyfuno dysgu damcaniaethol â hyfforddiant ymarferol, gan sicrhau bod graddedigion wedi’u paratoi’n dda i fodloni gofynion y diwydiant peirianneg. Mae’r cwrs yn derbyn cymhorthdal ??llawn gan lywodraeth Cymru ac yn rhedeg yn rhan amser am 3 blynedd. Cynigir y rhaglen hon mewn partneriaeth â Phrifysgol Wrecsam.