Crynodeb o’r cwrs
Cynlluniwyd Safon UG OCR yn Hanes yr Henfyd i helpu dysgwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o’r byd hynafol ac etifeddiaeth y byd hynafol mewn cymdeithas heddiw.
Bydd Safon UG OCR yn Hanes yr Henfyd yn galluogi dysgwyr i:
– datblygu diddordeb eang a helaeth yn hanes milwrol, gwleidyddol, crefyddol a chymdeithasol y byd hynafol
– caffael gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o gyfnodau dethol yn hanes yr henfyd a defnyddio’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth hon i lunio dadleuon cydlynol gyda barn wedi’i seilio ar brawf
– deall hanes Groeg a Rhufain yng nghyd-destun eu gwareiddiadau cyfagos a’r rhyngberthynas rhwng y gwareiddiadau hyn
– archwilio a gwerthuso arwyddocâd digwyddiadau, unigolion, materion, hunaniaethau a chymdeithasau yn hanes y byd hynafol
– deall natur tystiolaeth hanesyddol o’r byd hynafol a’i phrinder er mwyn adeiladu dealltwriaeth o gyfnodau hanesyddol a astudiwyd a’r dulliau a ddefnyddiwyd wrth ddadansoddi a gwerthuso’r dystiolaeth. Dylai myfyrwyr ddatblygu dealltwriaeth o sut y cafodd y gorffennol hynafol ei gynrychioli gan haneswyr hynafol
– datblygu dealltwriaeth o gysyniadau hanesyddol megis newid, parhad, achosiaeth, canlyniad ac arwyddocâd yng nghyd-destun y cyfnodau hanesyddol a astudiwyd
– datblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ddadleuon hanesyddol perthnasol a sut y gellir ymchwilio i’r rhain
– datblygu’r gallu i wneud cysylltiadau a thynnu cymariaethau rhwng gwahanol gyfnodau, unigolion, materion, hunaniaethau a chymdeithasau.
Ymgeisio am Lefelau UG neu Lefel A? Cliciwch ‘Gwnech Gais Nawr’ ar unrhyw UN o’r pynciau y mae gennych ddiddordeb mewn eu hastudio. Llenwch y ffurflen gais ar-lein, lle gofynnir i chi nodi’ch dau ddewis arall. Yna archebwch apwyntiad Cyfweliad i gwrdd â’r tiwtoriaid a thrafod y dewisiadau sydd orau gennych.