Crynodeb o’r cwrs
Cynllun cwrs dwy flynedd rhan-amser yw hwn ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster peirianneg lefel tri neu sy’n fyfyrwyr aeddfed sy’n gweithio mewn amgylchedd peirianneg ar hyn o bryd. Mae cymwysterau Cenedlaethol Uwch BTEC mewn Peirianneg wedi’u cynllunio i fynd i’r afael ag angen cynyddol am lwybrau addysg broffesiynol a thechnegol o ansawdd uchel. Bydd pob maes pwnc uned yn cael ei asesu gan nifer o aseiniadau a osodir gan y ganolfan lle gall myfyrwyr ennill graddau Llwyddiant, Teilyngdod neu Ragoriaeth.
Mae ffioedd cwrs ar hyn o bryd yn £1200.00 y flwyddyn am gwrs rhan-amser dwy flynedd. Mae hyn yn cynnwys ffioedd arholi/ardystio.