Mae’r cwrs blwyddyn hwn yn cwmpasu’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol sy’n gyffredin i bob practis Cerbyd Modur. Nod y cwrs yw archwilio’r holl systemau mecanyddol a thrydanol, sy’n nodweddiadol i gerbydau ysgafn. Cwblheir y cwrs trwy gyfrwng 2 arholiad ar-lein a chyfres o aseiniadau a thasgau ymarferol a gyflawnir yn ein cyfleuster gweithdy rhagorol. Mae hwn wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn gweithio gyda cheir a cherbydau, sydd am ddod yn fecanig, i weithio mewn garej neu unrhyw ddiwydiant peirianneg moduron.
Byddai cymwysterau TGAU Graddau D/E neu uwch yn ddelfrydol ond bydd profiad ymarferol hefyd yn cael ei ystyried. Rhaid i fyfyrwyr fynychu dosbarthiadau ail-sefyll TGAU ochr yn ochr â’u rhaglen amser llawn wrth gamu ymlaen i gwrs Lefel 2.
Diploma Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw Cerbydau Ysgafn. Diploma Lefel 1/2 mewn Atgyweirio Cerbydau. Diploma Lefel 1/2 mewn Adfer Cerbydau (Peintio). Prentisiaeth
Mae'r cwrs hwn yn cwmpasu'r sgiliau a'r wybodaeth sylfaenol sy'n sail i ymarfer Cerbydau Modur yn gyffredinol.
Nod y cwrs yw archwilio'r holl systemau mecanyddol a thrydanol a ddefnyddir yn nodweddiadol gyda cherbydau ysgafn.
Bydd angen i chi gwblhau dau arholiad cwestiwn amlddewis ar-lein i gwblhau'r cwrs a chyfres o aseiniadau a thasgau ymarferol i'w cwblhau yn ein gweithdy blaengar.
Mae'r cwrs hwn yn gofyn am asesiad parhaus o aseiniadau yn y Coleg a fydd yn cael eu coladu fel tystiolaeth portffolio i ddiwallu anghenion y corff dyfarnu.
Bydd arholiadau ar-lein yn cael eu trefnu ar gyfnodau allweddol trwy gydol y cwrs. Datblygu Sgiliau Llythrennedd a Rhifedd.