Lefel 6 BA (Anrh) Gwasanaethau Cyhoeddus (Llawn Amser)
Crynodeb o’r cwrs
Bydd y rhaglen hon yn addas ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o wasanaethau cyhoeddus, mewn lifrai a heb lifrai. Cyflawnir hyn trwy weithgareddau dysgu sy’n pwysleisio ymgysylltiad myfyrwyr ag adnoddau a arweinir gan ymchwil. Bydd cyfleoedd i fyfyrwyr gael profiad o weithgareddau gwasanaethau cyhoeddus a byddant yn ymwneud â phroblemau ac achosion dilys, go iawn.
Cynhelir y Cwrs mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Mae meini prawf mynediad yn manylu ar gynnig arferol ond mae’r Coleg yn ystyried pob cais yn unigol sy’n golygu y gallem wneud cynigion yn seiliedig ar gymwysterau, proffil personol a phrofiad.
Cynnig nodweddiadol : 2 Safon Uwch Gradd E neu broffil PP/PPP o gymhwyster galwedigaethol lefel 3. Rhaid cynnwys 5 TGAU Gradd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg
Bydd gan raddedigion ragolygon cyflogaeth mewn ystod eang o ddisgyblaethau gwasanaeth cyhoeddus, er enghraifft Swyddog y Lluoedd Arfog, Swyddog Hyfforddiant Corfforol, Heddlu'r Fyddin Brydeinig, Swyddog Heddlu, Swyddog Carchar, Diffoddwr Tân, Swyddog Asiantaeth Ffiniau'r DU ac ati.
Dau semester y flwyddyn academaidd. Mae myfyrwyr amser llawn fel arfer yn astudio gwerth 60 credyd o fodiwlau bob semester yn ystod y dydd. Mae myfyrwyr rhan-amser fel arfer yn astudio gwerth 60 credyd o fodiwlau y flwyddyn.
Mae Modiwlau Nodweddiadol yn cynnwys (sylwer mai detholiad yw'r rhain):
Arweinyddiaeth a Diwylliant
Iechyd Meddwl a'r Gwasanaethau Cyhoeddus
Terfysgaeth a Gwrthderfysgaeth
Lleihau trosedd a Diogelwch Cymunedol
Troseddau a Chamddefnyddio Sylweddau
Golau Glas yn Ymateb
Profiad Seiliedig ar Waith
Plismona yn y Gymdeithas Heddiw
Traethawd hir
Bydd angen i chi gwblhau detholiad o bortffolios, cyflwyniad ac aseiniadau ysgrifenedig wrth i chi symud ymlaen drwy'r cwrs. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu ar werthusiad seiliedig ar waith.