Lles ac Iechyd yn y Gymuned- Diploma mewn Addysg Uwch (Amser-Llawn)
Crynodeb o’r cwrs
Mae’n bosibl y bydd lleoedd ar gyfer dechrau yn 2020 yn dal i fod ar gael. Ewch i’n tudalen Clirio i gael gwybod rhagor https://www.nptcgroup.ac.uk/cy/clirio/
Mae’n rhaid i’r rhai sy’n dewis gweithio o fewn maes amrywiol iechyd a lles cymunedol allu diwallu anghenion gofal cyfannol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn y bobl y maent yn dod ar eu traws yn eu hymarfer.
Gall unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau fod ar unrhyw adeg mewn bywyd a gall fod ganddynt amrywiaeth o heriau iechyd meddwl, corfforol gwybyddol neu ymddygiadol.
Nod y cwrs hwn yw eich arfogi â’r gwerthoedd, y wybodaeth a’r sgiliau y gellir eu defnyddio ac sy’n benodol berthnasol i gyflogaeth ym maes Lles a Gofal Cymdeithasol yn y gymuned.
Mae’r rhaglen yn adlewyrchu materion cyfoes, tueddiadau cyfnewidiol a heriau o fewn y sector ac mae ganddi bwyslais ar wella ansawdd y gwasanaeth o fewn y maes ymarfer datblygol hwn.
Byddwch yn astudio amrywiaeth o bynciau gan gynnwys agweddau seicolegol a chymdeithasol ar iechyd a salwch, a dadleuon a dilemâu mewn iechyd a gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl a lles.
Mae’r cwrs hwn yn cael ei redeg mewn partneriaeth â’r Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa yn y sector gofal cymunedol ac mae hefyd yn croesawu dysgwyr aeddfed gyda neu heb brofiad o weithio ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Ein nod yw adlewyrchu’r dull amlddisgyblaethol sydd ei angen yn y sector hwn a mynd ati i chwilio am ddarpar fyfyrwyr o gefndiroedd cyflogaeth/academaidd amrywiol.
Gellir symud ymlaen i lwybrau gradd proffesiynol fel nyrsio iechyd meddwl, gwaith cymdeithasol, therapi galwedigaethol a’r radd BSc Iechyd a Lles atodol neu drosglwyddo’n uniongyrchol i ystod eang o gyfleoedd cyflogaeth mewn meysydd fel cwnsela, arferion therapiwtig amgen, rheoli prosiectau yn y sector gwirfoddol, gofal cartref, gofal preswyl, byw’n annibynnol gyda chymorth, gwaith prawf, yr heddlu, gwaith ieuenctid.
Mae’r modiwlau’n cynnwys:
• Effaith Poblogaeth sy’n Heneiddio
• Arfer Gofal
• Ymchwil yn y Maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ehangach
• Eiriolaeth
• Materion Cyfredol (Gofal Cymunedol)
• Systemau Gofal Integredig (Oedolion ac Ieuenctid)
Bydd y rhaglen yn cynnwys darlithoedd, tiwtorialau a lleoliad gwaith sylweddol.
Fel arfer, bydd yn rhaid i chi gwblhau portffolios, cyflwyniadau ar lafar ac ar bosteri ac aseiniadau ysgrifenedig wrth i chi symud ymlaen drwy’r rhaglen.
Mae’r cwrs hwn yn ei gwneud yn ofynnol i’r myfyriwr gaffael Tystysgrif DBS, sydd ar gost iddo’i hun.
Bydd yn rhaid i fyfyrwyr hefyd dalu am y gost o deithio i’r lleoliad gwaith.