Lles ac Iechyd yn y Gymuned- Tystysgrif mewn Addysg Uwch (Amser-Llawn)
Crynodeb o’r cwrs
Mae cefnogi iechyd a llesiant unigolion yn agwedd hanfodol ar alluogi pobl i gael bywyd pleserus a boddhaus. Gall weithio gyda phobl i wella eu hiechyd, trwy addysg, cymorth, triniaeth ac arweiniad proffesiynol mewn unrhyw leoliad wneud gwahaniaeth sylweddol i bobl pan fydd ei angen arnynt, beth bynnag fo’u hoedran. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o’r theori sy’n sail i ymddygiad iechyd unigol a fydd yn gwella ansawdd y cymorth a ddarperir gennych ar gyfer cleientiaid sy’n cyrchu gwasanaethau cymunedol.
Mae’r cwrs hwn yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â Phrifysgol y Drindod Dewi Sant.
Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa yn y sector gofal cymunedol ac mae hefyd yn croesawu dysgwyr aeddfed sydd â phrofiad o weithio ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu hebddo. Ein nod yw adlewyrchu'r dull amlddisgyblaethol sy'n ofynnol yn y sector hwn a mynd ati i chwilio am ddarpar fyfyrwyr o gefndiroedd cyflogaeth / academaidd amrywiol. Mae'n ofynnol bod gennych 210 awr o ymarfer yn y gweithle er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cwrs hwn.
Mae mwy o gyfleoedd nag erioed o'r blaen i arbenigwyr iechyd a llesiant. Ar ôl graddio, cewch gyfle i weithio o fewn ystod eang o ddisgyblaethau, gan gynnwys symud ymlaen i lwybrau gradd proffesiynol fel Nyrsio Iechyd Meddwl, Gwaith Cymdeithasol, Therapi Galwedigaethol neu alluogi cyfleoedd cyflogaeth mewn meysydd fel Cwnsela, Arferion therapiwtig Amgen, Rheoli Prosiectau'r Sector Gwirfoddol, Gofal Cartref, Gofal Preswyl, Byw'n Annibynnol â Chymorth, Gwaith Prawf, yr Heddlu a Gwaith Ieuenctid.
Gall modiwlau gynnwys:
• Cyfathrebu a Rhyngweithio Rhyngbersonol
• Cyflwyniad i Ymarfer Gofal
. Sgiliau Astudio
• Darpariaeth gymunedol - Diogelu Unigolion sy'n Agored i Niwed
• Cefnogi Byw'n Annibynnol trwy Rymuso a Gwydnwch. (Oedolyn / Ieuenctid)
• Iechyd Meddwl a Llesiant (Oedolion / Ieuenctid)
Bydd y rhaglen yn cynnwys darlithoedd, tiwtorialau a lleoliad gwaith sylweddol.
Fel arfer, bydd yn rhaid i chi gwblhau portffolios, cyflwyniadau ar lafar ac ar bosteri ac aseiniadau ysgrifenedig wrth i chi symud ymlaen drwy’r rhaglen.
Mae'r cwrs hwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r myfyriwr cael gaffael â thystysgrif DBS, a rhaid talu amdani ei hun. Cost teithio i'ch lleoliad gwaith ac oddi yno.